Canfod cymwysterau ac adnoddau
Cofrestriadau

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth sy’n ymwneud â’r broses o ganolfannau arholi’n cyflwyno cofrestriadau ymgeiswyr, ac yn cynnwys dolenni cyswllt i’r dogfennau allweddol sy’n rhoi cyfarwyddiadau gweithdrefnol manylach.
Cofrestriadau Rhagarweinol
Dylid cyflwyno cofrestriadau rhagarweiniol ar gyfer arholiadau TAG, TGAU a Lefel Mynediad ar-lein drwy wefan ddiogel CBAC. Mae’r system ar-lein wedi cael ei resymoli i wneud y broses yn symlach i swyddogion arholiadau ac i sicrhau bod y data a gyflwynir mor fanwl gywir â phosibl.
Mae’n bwysig i bob canolfan gyflwyno cofrestriadau rhagarweiniol. Os na fyddwch yn gwneud hynny, ni fyddwch yn derbyn deunyddiau arholiadau cynnar, er enghraifft cyfarwyddiadau ar gyfer arholiadau ymarferol, pan fydd eu hangen arnoch. Ni fydd deunyddiau ysgrifennu ar gyfer yr arholiadau yn cael eu dosbarthu i chi ychwaith.
Cofrestriadau Terfynol
Gellir defnyddio dau ddull i gyflwyno Cofrestriadau Terfynol ar gyfer holl arholiadau CBAC:
- Cyfnewid Data Electronig (EDI)
- Gwefan ddiogel CBAC
Gellir cael manylion llawn y dulliau hyn yn y llyfrynnau ar Ddulliau Cofrestru a gynhyrchir gan CBAC ar gyfer pob prif gyfres o arholiadau. Gellir llwytho’r llyfrynnau hyn i lawr ar waelod y dudalen hon.
Ceir rhestri llawn o’r holl godau cofrestru yn y llyfrynnau hyn hefyd, yn ogystal ag amrywiaeth eang o wybodaeth ddefnyddiol arall. Cynghorir Swyddogion Arholiadau yn gryf i ymgyfarwyddo'n llawn â’r manylion yn y dogfennau hyn.
Cofrestriadau Hwyr yw’r cofrestriadau hynny a gyflwynir ar ôl y dyddiadau cau swyddogol. Mae cofrestriadau hwyr yn llyncu adnoddau’r corff dyfarnu ac felly codir ffioedd ychwanegol fel rheol. Gellir gweld y manylion llawn yn y ddogfen ar ffioedd arholiadau isod.
Dogfennau Allweddol
TGAU Cyfrif Rhagarweiniol - Mehefin 2013
TAG Cofrestriadau Rhagarweinol - Mehefin 2013
Manylebau Newydd
Dylech wirio eich cofrestriadau rhagarweiniol yn oflas er mwyn sicrhau bod y niferodd amcangyfrifol cywir wedo eu cyflwyno ar gyfer yr hen fanylebau a'r manylebau newydd.
Cysylltbwyntiau
Ar gyfer pob mater gweinyddol sy'n ymwneud a chofrestriadau, peidiwch ag oedi rhag cysylltu a ni:
- Caroline McGlynn: 02920 265 193
- Catherine Chammings: 02920 265 194
- Amie Murtough: 02920 265 052
