Canfod cymwysterau ac adnoddau
Ymchwil ac Ystadegau
Mae CBAC yn cyflwyno amrywiol ystadegau sy'n mapio i'r cymwysterau mae CBAC yn eu cynnig.
Canlyniadau arholiadau CBAC
Canlyniadau rhagarweiniol
Bob haf mae CBAC, fel y cyrff dyfarnu eraill, yn cyhoeddi canlyniadau dros dro ar gyfer ei holl fanylebau, yr un diwrnod ag y caiff yr ymgeiswyr eu canlyniadau unigol.
Canlyniadau terfynol
Yn hwyrach yn y flwyddyn adolygir yr ystadegau i adlewyrchu unrhyw newidiadau yn sgîl y nifer fach o apeliadau, gwrthodiadau neu gyfnewid graddau'n hwyr. Ceir proses debyg ar gyfer cyfres arholiadau'r gaeaf.
Arholiadau'r Hydref
Mae CBAC yn trefnu nifer gyfyngedig o arholiadau TGAU sy'n cael eu sefyll yn hydref hwyr bob blwyddyn. Cyhoeddir tablau sy'n dangos calyniadau terfynol yr arholiadau hyn yn gynnar yn y flwyddyn ganlynol.
Nodiadau ystadegol
Mae ystadegau'r pynciau unigol yn berthnasol i holl ymgeiswyr arholiadau CBAC sy'n derbyn gradd neu ganlyniad annosbarthedig, nid yn unig y rhai sy'n dod o ganolfannau yng Nghymru. Nid ydym yn cynnwys yr ymgeiswyr a gofrestrwyd ar gyfer arholiad CBAC ond nad oeddent yn bresennol ar gyfer yr arholiad, neu ran ohono.
Gellir gweld ystadegau cynhwysfawr ar gyfer pob gwlad yn y DU ar wefan y JCQ (Joint Council for Qualifications)
Mwy o wybodaeth am ganlyniadau arholiadau'r gorffennol
Gellir gweld gwybodaeth canlyniadau 2011 yn Datganiad TAG i'r Cyfryngau a Datganiad TGAU i'r Cyfryngau.
Gellir gweld gwybodaeth canlyniadau 2010 yn Datganiad TAG i'r Cyfryngau a Datganiad TGAU i'r Cyfryngau.
Gellir gweld gwybodaeth canlyniadau 2009 yn Datganiad TAG i'r Cyfryngau a Datganiad TGAU i'r Cyfryngau.
Gellir gweld gwybodaeth canlyniadau 2008 yn Datganiad TAG i'r Cyfryngau a Datganiad TGAU i'r Cyfryngau.
