Canfod cymwysterau ac adnoddau
Trefniadau Mynediad
Mae manylion llawn am y dulliau i'w dilyn ar gyfer Trefniadau Mynediad ac Ystyriaeth Arbennig i'w cael yn llyfryn y CGC "Trefniadau Mynediad, Addasiadau Rhesymol ac Ystyriaeth Arbennig". Gellir llwytho'r canlynol i lawr mewn fformat PDF o wefan y CGC – copïau o'r llyfryn a chopïau o'r ffurflenni perthnasol i gyd.
Trefniadau Mynediad
Gall fod gan rai ymgeiswyr arholiad yr hawl i gael trefniadau mynediad penodol, i'w cefnogi wrth iddynt sefyll arholiadau.
Mae amrywiaeth eang o drefniadau mynediad ar gael – e.e. darparu darllenydd, ysgrifennydd, amser ychwanegol ayb.
Dylid prosesu'r holl geisiadau am 'drefniadau mynediad' TAG/TGAU gan ddefnyddio'r cyfrwng ar-lein (Trefniadau Mynediad Ar-lein) a ddatblygwyd gan QCDA a chyrff dyfarnu'r CGC. Gellir cyrchu'r cyfrwng o wefan ddiogel CBAC, neu o allrwydi unrhyw un o'r cyrff dyfarnu eraill. Dylid parhau i gyflwyno ceisiadau am Lefel Mynediad, Sgiliau Sylfaenol ac Allweddol a Sgiliau Gweithredol gan ddefnyddio ffurflenni papur, sydd ar gael i'w llwytho i lawr o'r dudalen Trefniadau Mynediad ar wefan y CGC.
Dylai'r rhan fwyaf o’r ceisiadau ar lefel TAG/TGAU gael eu datrys yn awtomatig gan ddefnyddio'r cyfrwng ar-lein. Mewn unrhyw achosion lle nad yw cais yn cael ei gymeradwyo, mae'r cyfrwng yn caniatáu i'r Swyddog Arholiadau gyfeirio'r cais i'r cyrff dyfarnu perthnasol i'w benderfynu ar wahân.
Mae'r cyfrwng yn rhwydd iawn i'w ddefnyddio a'i ddeall ac yn gyfeillgar i'r defnyddiwr. Os ydych am archwilio sut mae'n gweithio cyn i chi fewnbynnu unrhyw ddata byw, mae fersiwn hyfforddi ar wahân o'r safle ar gael.
