Canfod cymwysterau ac adnoddau
Newyddion Diweddaraf
Arloesedd 2008
26 Medi 2008
Beth sy’n gyffredin rhwng dyfais sgipio y gellir ei haddasu, esgidiau glaw glân a lifft ar gyfer powlen ci? Nid cwestiwn i’ch twyllo mo hwn: mae bob un o’r rhain yn ymgeiswyr ar gyfer cynllun gwobrwyo Dylunio a Thechnoleg Cymru eleni – Arloesedd 2008. [mwy]
Cyflwyno 40 TGAU newydd
12 Medi 2008
Mae holl fanylebau diwygiedig TGAU CBAC bellach wedi’u hachredu gan y rheolyddion arholiadau i’w dysgu yng Nghymru a Lloegr o fis Medi 2009 ymlaen. [mwy]
Dysgwyr Cymraeg yn Dathlu Llwyddiant
1 Medi 2008
Daeth dros 150 o ymgeiswyr llwyddiannus yr arholiadau Cymraeg i oedolion eleni i dderbyn eu tystysgrifau mewn seremoni yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. [mwy]
Myth, Lledrith a Llanast
1 Medi 2008
Perfformwyr ifanc gorau Cymru yn mynd ar daith - Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dechrau ei thaith haf 2008 yn Aberystwyth cyn symud ymlaen at leoliadau yng Ngogledd a De Cymru. [mwy]
Myfyrwyr TGAU yn Dathlu Llwyddiant
21 Awst 2008
Cyhoeddwyd canlyniadau TGAU 2008 Cymru heddiw (Dydd Iau 21 Awst) gan ddangos gwelliant ar Radd C o gymharu â blynyddoedd blaenorol, tra oedd canlyniadau ar raddau eraill yn debyg iawn i 2007. Enillodd 65% o’r myfyrwyr raddau A*-C o’i gymharu â 63% y llynedd. Roedd y canran yn ennill A* yn 6.1% o gymharu â 6.3% llynedd, gyda 18.9% yn cyrraedd A neu A* (o gymharu â 18.6% yn 2007). [mwy]
Myfyrwyr Safon Uwch yn Parhau i Lwyddo
14 Awst 2008
Llongyfarchwyd myfyrwyr heddiw gan Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC, am eu canlyniadau safon Uwch ac Uwch Gyfrannol ardderchog. “Gall myfyrwyr fod yn haeddiannol falch o'u cyflawniad ym mhob maes pwnc, a gall eu hathrawon a darlithwyr fod yn falch o lwyddiant eu rhaglenni dysgu", dywedodd Gareth Pierce. [mwy]
Matthew Rhys i berfformio gyda'r Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid
7 Awst 2008
Bydd yr actor Matthew Rhys, seren theatr, sgrin a theledu, yn ymddangos ar lwyfan gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol yr haf hwn. [mwy]
CBAC yn datblygu Adnoddau Addysgol newydd
5 Awst 2008
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni, bydd CBAC yn arddangos rhan Adnoddau Addysgol ei wefan ar ei newydd wedd. Mae croeso cynnes i bawb ddod draw i weld y datblygiadau hyn ar stondin CBAC. [mwy]
Nicky Robinson i gicio cic gyntaf cwrs AG newydd CBAC
4 Awst 2008
Ar ddydd Mercher 6 Awst am 11yb bydd CBAC yn lansio ei fanyleb Safon Uwch Addysg Gorfforol newydd gyda chymorth gan chwaraewr rygbi Cymru a'r Gleision Nicky Robinson a’i gyd-chwaraewr Robin Sowden-Taylor ar stondin 405-407 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd. [mwy]
Sgiliau Gweithredol yn cynnig cymhwysterau newydd
29 Gorffennaf 2008
Mae'n bleser gan CBAC gyhoeddi ein bod bellach yn cynnig cymwysterau Sgiliau Allweddol Lefel Mynediad Mathemateg (mynediad 1, 2 a 3) a Lefel Mynediad TGCh (mynediad 2 a 3) fel rhan o beilot QCA i ganolfannau yn Lloegr. [mwy]
