Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




Newidiadau asesu sillafu, atalnodi a gramadeg i fanylebau TGAU CBAC
10 Mai 2012

Mae’r rheoleiddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi gofyn yn ddiweddar i bob corff dyfarnu gynnwys yr elfen o asesu sillafu, atalnodi a gramadeg yn y pynciau canlynol o fis Ionawr 2013: [mwy]


Cymraeg i'r Teulu
2 Mai 2012

Mae CBAC newydd gyhoeddi llyfr cwrs blwyddyn 2 Cymraeg i’r Teulu. Dyma gwrs i rieni sydd â phlant ifanc ac yn dysgu Cymraeg ar lefel dechreuwyr. Bu llyfr cwrs 1 yn llwyddiant mawr a bu’n rhaid i ni adargraffu o fewn dau fis. Mae’n cynnwys ymarferion, caneuon, gweithgareddau, gêmau, tasgau a llu o bethau defnyddiol i’w defnyddio mewn dosbarth. Mae’n rhan o broject a noddir gan Lywodraeth Cymru. [mwy]


Ymateb i adroddiad Ofqual ar seminarau byrddau arholi
27 Ebrill 2012

Mae CBAC yn croesawu cynigion Ofqual i egluro’r ffyrdd y gall cyrff dyfarnu ddarparu datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon yn Lloegr o fis Medi 2013 ymlaen. Rydym yn falch y byddwn yn parhau i allu cynnig digwyddiadau wyneb-yn-wyneb i gyflwyno manylebau newydd, ar gyfer hyfforddiant sy’n ymwneud yn benodol ag asesu dan reolaeth, a hefyd ar gyfer hyfforddiant cyffredinol i gyfoethogi gwaith athrawon yn yr ystafell ddosbarth. [mwy]


Y Blwch Llythrennedd
26 Ebrill 2012

Dyma’r cyfle olaf i chi archebu Y Blwch Llythrennedd sy’n cynnwys nifer o weithgareddau rhyngweithiol sy'n cyfrannu at ddatblygu llythrennedd ymhlith disgyblion Blynyddoedd 5-8. [mwy]


CCIC yn Perfformio yn Proms y BBC!
23 Ebrill 2012

Yn dilyn y lansiad diweddar, rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cymryd rhan yn Proms y BBC yn yr haf; y tro cyntaf y 66 mlynedd bodolaeth CGIC. [mwy]


Llwyddiant i dîm adnoddau addysgol CBAC
13 Ebrill 2012

Cafodd ffrwyth llafur tîm adnoddau addysgol CBAC gydnabyddiaeth genedlaethol yn ddiweddar mewn dau faes cyhoeddi. Enillodd Patagonia (Sioned V. Hughes - CAA) y wobr gyntaf yng nghategori ‘Gwerthwr Gorau Plant’ yng Ngwobrau’r Diwydiant Cyhoeddi a gynhaliwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth. [mwy]


CBAC - Gwyliau'r Pasg
5 Ebrill 2012

Bydd swyddfeydd CBAC ar gau dros y Pasg. Byddwn yn ailagor Ddydd Mercher 11 Ebrill 2012. [mwy]


Cynlluniau marcio cyn-bapurau ar gael yn rhad ac am ddim
3 Ebrill 2012

Mae cynlluniau marcio ar gyfer cyn-bapurau arholiadau CBAC bellach ar gael i'w llawrlwytho yn rhad ac am ddim o'n gwefan. [mwy]


Newidiadau i Safon Uwch - Ymateb CBAC
3 Ebrill 2012

Yn dilyn y newyddion bod yr Ysgrifennydd Gwladol am wneud amrywiol newidiadau i’r arholiadau Safon Uwch, gan gynnwys mwy o ymwneud ar ran y prifysgolion yn y broses, gwnaed y sylw canlynol gan Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC: [mwy]


Dewch i ymweld â CBAC yn yr Education Show
13 Mawrth 2012

Bydd CBAC gydag arddangosfa yn yr Education Show 2012, un o'r digwyddiadau addysg mwyaf yng ngwledydd Prydain sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad dysgu ac addysgu, a gynhelir yn yr NEC yn Birmingham rhwng y 15fed a'r 17eg o Fawrth [mwy]