Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




Gwobrau Arloesedd 2009
23 Hydref 2009

Cw: Beth sydd gan olau cyfoes, tennyn bwrdd syrffio tynnu’n ôl, bwrdd a chadair wedi’u gwneud o deiars a chabinet meddyginiaeth ar gyfer pobl ddall yn gyffredin? A: Mae pob un yn enillwyr Gwobrau Arloesedd 2009! Cyflwynwyd y gwobrau, a ddaeth ag wyth deg o’r projectau mwyaf arloesol ynghyd o Gymru gyfan, gan John Griffiths, Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau yn ystod seremoni ar 20fed Hydref yng Ngerddi Soffia, Caerdydd. [mwy]


HMS Undydd rhad ac am ddim ar gyfer cymwysterau Project
7 Hydref 2009

Oherwydd eu bod mor boblogaidd, Bydd CBAC yn cynnal HMS RHAD AC AM DDIM ar gyfer y cymwysterau Project Sylfaen, Uwch ac Estynedig ar ddydd Gwener, 27 Tachwedd 2009 yng Ngwesty'r Marriott yng Nghaerdydd. [mwy]


Y Bartneriaeth CBAC/Edexcel/VTCT yn Cynnal Digwyddiadau Prif Ddysgu
2 Hydref 2009

Mae'r tri chorff dyfarnu, CBAC, Edexcel a VTCT wedi trefnu digwyddiad Prif Ddysgu undydd ar ddydd Iau, 15 Hydref 2009 ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd o 10 a.m. [mwy]


Canlyniadau Arholiadau - Data Lefel-Eitem
24 Medi 2009

Mae data lefel-eitem Haf 2009 nawr ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o bynciau - TAG, TGAU a Sgiliau Gweithredol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ysgolion a cholegau ddadansoddi perfformiad y ganolfan cwestiwn wrth gwestiwn ac i gymharu’r canlyniadau gyda chyfartaledd CBAC. [mwy]


Canllawiau ac adnoddau i athrawon
21 Medi 2009

Mae gan CBAC ystod eang o ddeunyddiau i athrawon: Canllawiau Athrawon; Manylebau; Deunydd Asesu Prawf; Adroddiadau Arholwyr, a mwy! [mwy]


Ffioedd Cofrestru 2011
18 Medi 2009

Mae CBAC wedi rhyddhau strwythyr ffïoedd cofrestru arfaethedig heddiw ar gyfer arholiadau TAG a TGAU, fydd yn berthnasol i gofrestriadau arholiadau mis Ionawr a mis Gorffennaf 2011. [mwy]


Canrif / Century - perfformiad cyntaf erioed a thaith genedlaethol
4 Medi 2009

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn barod i gyflwyno drama newydd sbon i gynulleidfaoedd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug a Sherman Cymru yng Nghaerdydd, gyda deg perfformiad cyhoeddus mewn wyth niwrnod yn unig! [mwy]


Cyfle Olaf i Ail-sefyll yr Hen Fanylebau TAG
1 Medi 2009

Cyfres arholiadau Ionawr 2010 fydd y cyfle olaf i ymgeiswyr ail-sefyll unedau ysgrifenedig ar gyfer yr hen fanylebau TAG. [mwy]


Myfyrwyr Cymru'n dathlu canlyniadau TGAU
27 Awst 2009

Bu disgyblion trwy Gymru'n dathlu eu canlyniadau TGAU heddiw gyda 65.5% o fyfyrwyr Cymru'n ennill Graddau A*-C. [mwy]


Addasiadau dramâu ar gael i athrawon
25 Awst 2009

Fe fydd dramâu a enwir ym manylebau Drama (TGAU ac U2) CBAC i'w cael wedi eu haddasu i’r Gymraeg ar y wefan ddiogel erbyn dechrau'r tymor. [mwy]