Canfod cymwysterau ac adnoddau
Newyddion Diweddaraf
Llwyddiant i arloeswyr ifanc Cymru
9 Hydref 2012
Cafodd dylunwyr ifanc mwyaf disglair Cymru gydnabyddiaeth am eu gwaith rhagorol yng nghyrsiau Safon Uwch a TGAU Dylunio a Thechnoleg CBAC gan y Prif Weinidog, Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC yn Arddangosfa a Gwobrau Arloesedd 2012. [mwy]
Ymateb CBAC i newidiadau’r TGAU Saesneg Iaith yng Nghymru
4 Hydref 2012
Dywedodd Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC: "Mae CBAC yn ymwybodol o’r amgylchiadau heriol y bydd athrawon yn eu hwynebu wrth ymdopi â’r newidiadau i'r ffordd y mae'r cymhwyster TGAU Saesneg Iaith yn cael ei asesu yn 2014, ond rydym yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau dilysrwydd a dibynadwyedd yr asesu ar gyfer y dyfodol. [mwy]
Gwobrau ac Arddangosfa Arloesedd 2012 yn cyrraedd Caerdydd
3 Hydref 2012
Bydd Gwobrau ac Arddangosfa Arloesedd 2012 yn cymryd lle yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd ar 8-9 Hydref gyda digwyddiad arbennig i ddathlu’r gwaith project mwyaf arloesol yng nghyrsiau Safon Uwch a TGAU Dylunio a Thechnoleg CBAC. [mwy]
CBAC yn cefnogi campws newydd Coleg Morgannwg
25 Medi 2012
Mae’n bleser gan CBAC fod yn rhan o agoriad swyddogol cyffrous Campws newydd Coleg Morgannwg yn Nantgarw, ddydd Mercher 26ain Medi 2012. [mwy]
CBAC yn cyhoeddi enillydd Gwobr Ardderchogrwydd Sylfaen 2012
25 Medi 2012
Enillydd Gwobr Ardderchogrwydd Sylfaen 2012 CBAC, sy’n dathlu’r cyflawniadau creadigol a ysbrydolwyd gan y cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, yw Owain McGilvary, myfyriwr o Goleg Menai yng Ngogledd Cymru. Cafodd gwobr Owain – sef siec o £150 a thystysgrif – ei chyflwyno gan yr artist Keith Bowen yn Arddangosfa Ardderchogrwydd Sylfaen CBAC yn Oriel Gerddi Howard, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar 21 Medi. [mwy]
TGAU Saesneg a Saesneg Iaith - ail-sefyll arholiadau ym mis Tachwedd
21 Medi 2012
Bydd ymgeiswyr yng Nghymru a Lloegr yn cael y cyfle i ail-sefyll eu harholiadau TGAU Saesneg a / neu TGAU Iaith Saesneg eto ym mis Tachwedd 2012. [mwy]
Arddangosfa a Gwobrau Ardderchogrwydd Sylfaen CBAC 2012
20 Medi 2012
Bydd CBAC yn dathlu cyraeddiadau creadigol cyrsiau Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ledled Cymru a Lloegr gydag arddangosfa yn Oriel Gerddi Howard ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd o 21-28 Medi. [mwy]
Gwobrau Arloesedd 2012
20 Medi 2012
Bydd y 14eg Gwobrauu ac Arddangosfa Arloesedd yn dechrau yn Venue Cymru, Llandudno, 24-25 Medi 2012, i ddathlu’r gwaith prosiect mwyaf arloesol ar lefel Safon Uwch a TGAU Dylunio a Thechnoleg. [mwy]
Adargraffiad diwygiedig o un o berlau’r iaith
20 Medi 2012
Mae ffrwyth llafur golygyddol CBAC i’w weld mewn adargraffiad diwygiedig o gyfrol a gyhoeddwyd i gefnogi’r fanyleb Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf. [mwy]
Ailraddio TGAU Iaith Saesneg - Cwestiynau ac atebion
17 Medi 2012
Mae CBAC wedi derbyn cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru (rheoleiddiwr arholiadau yng Nghymru) sy'n gorfodi CBAC yn ôl y gyfraith i ailraddio canlyniadau TGAU Iaith Saesneg ar gyfer canolfannau yng Nghymru yn unig. [mwy]
