Canfod cymwysterau ac adnoddau
Dewch i ymweld â CBAC yn yr Education Show
4 Mawrth 2013
Bydd gan CBAC arddangosfa yn yr Education Show 2013, un o ddigwyddiadau mwyaf addysg yn y DU sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad dysgu ac addysgu. Cynhelir y Sioe yn yr NEC ym Mirmingham rhwng y 14eg a'r 16eg o Fawrth.
Ar stondin arddangos G61 yn Neuadd 4, bydd CBAC yn arddangos ei bortffolio o wasanaethau addysgol ac yn dangos ei adnoddau addysgol ar-lein arloesol. Dewch i ymweld â ni i gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau, cymwysterau ac adnoddau.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i wefan yr Education Show
Ymholiadau’r Wasg
Dafydd Wyn, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
029 2026 5102
dafydd.wyn@cbac.co.uk
