Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




30 Ionawr 2008

Mae'n bleser gan CBAC gyhoeddi mai £34.50 fydd ffi gofrestru'r TAG safon UG yn y manylebau newydd y dechreuir eu dysgu ym mis Medi 2008.

Mae hyn 12% yn is na'r ffigur a fyddai wedi'i osod ar ôl cymhwyso'r ffi UG bresennol yn ôl chwyddiant sef £37.50. Gellir gwneud y gostyngiad hwn oherwydd y bydd y rhan fwyaf o'r manylebau TAG newydd yn newid o chwech i bedair uned asesu.*

“Yn ei hanfod yr hyn rydym yn ei wneud yma yw trosglwyddo i'r ysgolion a cholegau yr arbedion hynny a geir o gael llai o asesiadau i'w gosod a'u dyfarnu yn y rhan fwyaf o'r pynciau TAG" meddai Derec Stockley, Cyfarwyddwr Arholiadau ac Asesu CBAC.

“Rwy'n hyderus bod y ffïoedd hyn yn rhoi'r gwerth gorau am yr arian. Maent yn herio CBAC, yn enwedig yn ystod y cyfnod pryd y cynigir manylebau TAG newydd a'r rhai cyfredol ar yr un pryd”.

“Fodd bynnag rydym wedi penderfynu parhau â'n polisi o un ffi ar draws yr holl bynciau TAG, gan y credwn na ddylai dewisiadau pwnc myfyrwyr effeithio ar gostau ffïoedd arholiadau'r canolfannau."

Mae ymchwil a gomisiynwyd gan QCA wedi dangos mai'r cyllidebau adnoddau addysgu yn yr ysgolion a cholegau sydd wedi dioddef wrth i ffïoedd arholiadau gynyddu. Gobaith CBAC yw y bydd y gostyngiad hwn yn y ffïoedd yn golygu y bydd yr ysgolion a'r colegau'n elwa.

Gall CBAC hefyd gadarnhau y bydd y ffïoedd cofrestriad uned y bwriedir eu cynnig ar gyfer 2009-2010, pan ddyfernir y Safonau Uwch llawn y manylebau newydd am y tro cyntaf, yn deillio o ffi gyffredinol o £71.00 y pwnc.


*********************

* Y pynciau lle y parheir i gael chwe uned yw Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Cerddoriaeth, Electroneg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Ail Iaith, ac ar gyfer yr rhain hefyd £34.50 fydd y ffi UG newydd.


STRWYTHUR FFÏOEDD COFRESTRU CBAC AR GYFER Y MANYLEBAU TAG NEWYDD

2009

£34.50 y pwnc UG newydd cyflawn (dyfarniadau cyntaf)
£17.25 yr uned mewn pynciau 4-uned newydd
£11.50 yr uned mewn pynciau 6-uned newydd.

2010

£71.00 y pwnc Safon Uwch cyflawn (dyfarniadau cyntaf)
£17.75 yr uned mewn pynciau 4-uned
£11.83 yr uned mewn pynciau 6-uned.

Yr unig ffïoedd arholiadau TAG eraill a godir gan CBAC yw'r rhai ar gyfer y pynciau lle y bydd arholwyr neu safonwyr yn ymweld â'r canolfannau. Yn achos y manylebau newydd yn 2009 bydd ffi ategol o £13.00 yr ymgeisydd yn yr unedau perthnasol.

Codir ffi o £13 yr uned am yr UG a'r U2 yn y manylebau cyfredol yn 2009.



Am fanylion pellach am ffïoedd cofrestru CBAC, cysylltwch â'r adran Gofrestriadau: entries@wjec.co.uk 029 2026 5193/5194/5052

Am ymholiadau'r wasg, cysylltwch â Ceri Thomas: ceri.thomas@wjec.co.uk 029 2026 5309