Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




3 Awst 2012

Cynhelir seremoni i gyflwyno tystysgrifau i ymgeiswyr llwyddiannus arholiadau Cymraeg i Oedolion ym Maes D yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Sadwrn 4 Awst eleni. 

Yn y seremoni, a gynhelir am 1.00 o’r gloch y prynhawn, bydd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews yn siarad, a Mari Grug, un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C, yn cyflwyno’r tystysgrifau. Emyr Davies, swyddog arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC, fydd yn llywio’r seremoni.

“Rwy’n falch iawn i gael y cyfle i longyfarch dysgwyr ar ran Llywodraeth Cymru am eu llwyddiant yn arholiadau CBAC” meddai Leighton Andrews. “Fel dysgwr fy hun, rwy’n ymwybodol iawn o’r gwaith caled a’r ymrwymiad sydd y tu ôl i bob tystysgrif a dderbynnir yma heddiw.  Rwy’n dymuno’n dda i bawb wrth iddynt fwynhau’r Eisteddfod a chael cyfle i ymarfer eu Cymraeg mewn cyd-destun mor arbennig, ac yn y dyfodol hefyd.” 

Dysgu Cymraeg gyda CBAC

Bob blwyddyn, mae tua 1,700 o ddysgwyr yn sefyll yr arholiadau a sefydlwyd gan CBAC ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg.    Gellir eu sefyll mewn lleoliadau dros Gymru gyfan, mewn cydweithrediad â’r chwe chanolfan Cymraeg i Oedolion, a thrwy nawdd Llywodraeth Cymru. Mae nifer bach o ymgeiswyr yn sefyll yr arholiadau yn y Wladfa bob blwyddyn. 

Yn ogystal â’r arholiadau, mae CBAC yn gweithio ar nifer o brojectau yn ymwneud â maes Cymraeg i oedolion ar ran Llywodraeth Cymru, yn cynnwys llyfrau cwrs, cardiau fflach, adnoddau Cymraeg i’r Teulu, a’r wefan newydd i ddysgwyr a thiwtoriaid a fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod eleni, sef Y Bont.

Ymgeiswyr yn cyflawni gwyrthiau!

Un ymgeisydd sydd wedi mwynhau dysgu Cymraeg yw Gareth Thomas o’r Bontfaen, sydd wedi cyrraedd lefel uwch yn y Gymraeg. Ar ôl byw yn Lloegr am dros ddeugain mlynedd roedd Gareth yn benderfynol o ddysgu’r Gymraeg gan ei fod yn bwysig ar gyfer ei hunaniaeth.

“Rhan orau’r cwrs oedd cael y cyfle i siarad yr iaith gyda phobl eraill a chymdeithasu drwy’r Gymraeg.” meddai Gareth. “Rwy’n mwynhau defnyddio’r iaith wrth siarad â thrigolion y pentref neu wrth gyfarfod â hen ffrindiau yng Nghaerdydd. Byddwn yn argymell y cwrs i unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg!”

Arholiadau Cymraeg i Oedolion

Mae arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC yn profi’r sgiliau iaith i gyd, gyda’r pwyslais pennaf ar siarad.  Dim ond yr ymgeiswyr i’r arholiadau Canolradd ac Uwch sy’n cael eu gwahodd i’r seremoni yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac i lwyddo yn y ddau arholiad hynny, mae angen bod yn eithaf rhugl ar lafar. 

Fel rhan o’r cymhwyster Uwch, er enghraifft, gall ymgeiswyr baratoi ffolio’n seiliedig ar fod mewn sefyllfa ymarferol lle defnyddir y Gymraeg yn unig, e.e. gweithle, Eisteddfod, cymdeithas neu gôr Cymraeg.  Caiff hynny effaith bellgyrhaeddol ar eu hyder a’u rhuglder yn y Gymraeg. 

Dewis sefyll yr arholiadau y mae’r ymgeiswyr, ac felly mae’r graddfeydd llwyddo’n uchel, gydag oddeutu 95% yn llwyddo bob blwyddyn.  Dylid cofio ar yr un pryd bod yr arholiadau’n gymwysterau sydd wedi eu hachredu’n llawn ac mae llwyddo i’r lefelau hyn yn her fawr i’r dysgwyr. 

“Llongyfarchiadau gwresog iawn i bawb sydd wedi llwyddo yn yr arholiadau ar bob lefel eleni.” meddai Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC. “Rydym yn hyderus y byddant yn mynd o nerth i nerth o hyn ymlaen i fwynhau a defnyddio eu sgiliau iaith yn eu bywydau pob dydd.”

“Ar ôl byw yn Lloegr am dros ddeugain mlynedd roeddwn yn benderfynol o ddysgu’r Gymraeg gan ei fod yn bwysig ar gyfer fy hunaniaeth.” meddai Gareth Thomas o ardal y Bontfaen sydd wedi cyrraedd lefel uwch yn y Gymraeg. “Rhan gorau’r cwrs oedd cael y cyfle i siarad yr iaith gyda phobl eraill a chymdeithasu drwy’r Gymraeg. Rwy’n mwynhau defnyddio’r iaith wrth siarad â thrigolion y pentref neu wrth gyfarfod â hen ffrindiau yng Nghaerdydd. Byddwn yn argymell y cwrs i unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg!”

Gwybodaeth bellach

Am wybodaeth bellach am yr arholiadau, y seremoni neu am gyfleoedd i dynnu lluniau a chyfweld ag ymgeiswyr, cysyllter ag:

Dafydd Wyn, Swyddog Cyfathrebu CBAC
029 2026 5102 dafydd.wyn@cbac.co.uk

Ceri Thomas, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu CBAC
029 2026 5309 ceri.thomas@cbac.co.uk

Emyr Davies, Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC emyr.davies@cbac.co.uk 

Am wybodaeth am ALTE,  ewch at www.alte.org