Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




15 Awst 2012

Mae CBAC yn cynllunio cyfres newydd o gymwysterau Safon Uwch i’w dysgu o bosib o Fedi 2014 ymlaen, fel ymateb i ymgynghoriad Ofqual ar ddiwygio Safon Uwch.

Gwahodd darlithwyr

Bydd mewnbwn Addysg Uwch yn agwedd bwysig o’r datblygiadau newydd: bydd cyfleoedd i brifysgolion ddylanwadu ar gynnwys astudiaethau myfyrwyr chweched dosbarth cyn iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd yn y brifysgol. Gall rhai darlithwyr wedyn chwarae rôl ymgynghorol bwysig yn datblygu manylebau a deunyddiau asesu Safon Uwch newydd.

Byddai CBAC yn falch o glywed gan ddarlithwyr mewn amrediad o bynciau yn y gwyddorau, ieithoedd a dyniaethau. Mae’r gwaith yn debyg o gynnwys cymryd rhan mewn grwpiau trafod penodol ar gyfer pynciau arbennig, er mwyn rhannu syniadau ar welliannau posibl i’r manylebau cyfredol. Dilynir y gwaith hwn mewn rhai achlysuron gan gyfleoedd i gyfrannu at y broses o ddatblygu deunyddiau i’w hachredu.

Gwybodaeth bellach

Gwahoddir darlithwyr yn y pynciau a ganlyn i yrru CV byr at sandra.anstey@wjec.co.uk erbyn 31 Awst: Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Llenyddiaeth Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Daearyddiaeth a Hanes. Croeso i ymgeiswyr ffonio Sandra Anstey ar 029 2026 5132 i gael sgwrs anffurfiol, neu fynd at www.cbac.co.uk/gweithiogydani am fanylion pellach.

Ymholiadau’r wasg:

Ceri Thomas - Rheolwr Marchnata
Ffôn: 029 2026 5309
E-bost: ceri.thomas@cbac.co.uk