Canfod cymwysterau ac adnoddau
Dwy fanyleb TGAU Daearyddiaeth CBAC bellach wedi’u hachredu
4 Gorffennaf 2012
Ar ôl camau’r awdurdodau rheoleiddio i atgyfnerthu’r broses o gyflwyno ac asesu’r cymhwyster TGAU Daearyddiaeth ar draws yr holl sefydliadau dyfarnu, mae’n bleser gan CBAC gadarnhau bod y ddwy fanyleb TGAU Daearyddiaeth (A a B) bellach wedi’u hachredu.
Bydd y ddwy fanyleb ar gael i’w haddysgu o fis Medi 2012.
Dywedodd Andy Owen, Swyddog Pwnc Daearyddiaeth TGAU,
"Rydym bellach yn cynnig dewis go iawn – gellir sicrhau athrawon bod y ddwy fanyleb, sy’n eithaf gwahanol a nodedig, yn bodloni holl ofynion y rheoleiddwyr. Credaf y bydd y newidiadau rydym wedi’u gwneud i’r ddwy fanyleb yn gwella profiad athrawon a myfyrwyr yn sylweddol.”
“Mae Manyleb A yn cynnwys themâu craidd sy'n rhoi sylfaen gadarn o ddaearyddiaeth ddynol a ffisegol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i athrawon ddethol o amrywiaeth o themâu dewisol gan gynnwys Arfordiroedd a Thwristiaeth.
"Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan, ac yn cael eu herio a’u hymestyn, yn enwedig drwy’r pwyslais ar 'ddyfodol daearyddol' a byddant yn cymhwyso eu dealltwriaeth o dueddiadau cyfredol er mwyn nodi sefyllfaoedd amgen yn y dyfodol a gwerthuso eu cynaliadwyedd.
“Mae manyleb B yn gwyro meddyliau myfyrwyr tuag at faterion daearyddol sy’n berthnasol i’w cenhedlaeth nhw. Mae gan fyfyrwyr y cyfle i ystyried safbwyntiau rhanddeiliaid ar amrywiaeth o faterion daearyddol ac, wrth wneud hynny, yn dod yn ddaearyddwyr beirniadol.
“Un o nodweddion nodedig y fanyleb yw’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a mireinio eu sgiliau datrys problemau, sy’n sgiliau a gaiff eu hasesu drwy asesiadau allanol yn Uned 2B.
“Mae’r rhain yn gyrsiau beiddgar a chyffrous a fydd yn ysgogi ac yn ysbrydoli myfyrwyr i astudio daearyddiaeth sy’n addas ar gyfer yr 21fed ganrif. Mae’r ffaith eu bod yn ymdrin mor fanwl â phrosesau sy’n ymwneud â daearyddiaeth ddynol a ffisegol yn golygu bod y ddwy fanyleb yn rhoi sylfaen gadarn i astudio daearyddiaeth Safon Uwch.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r adran Ddaearyddiaeth ar ein gwefan.
Manylion cyswllt
Dafydd Wyn, Swyddog Cyfathrebu
029 2026 5102 dafydd.wyn@cbac.co.uk
Andy Owen, Swyddog Pwnc Daearyddiaeth TGAU
029 2026 5114 andrew.owen@wjec.co.uk
Steve James, Swyddog Cefnogaeth Pwnc (TGAU Manyleb A)
029 2026 5029 steve.james@wjec.co.uk
Andrew Williams - Swyddog Cefnogaeth Pwnc (TGAU Manyleb B)
029 2026 5141 andrew.williams@wjec.co.uk
