Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




3 Gorffennaf 2012

Mae CBAC yn falch bod y Pwyllgor Dethol wedi cydnabod gwerth galluogi ysgolion i ddewis rhwng byrddau arholi, o fewn system sydd wedi’i rheoleiddio’n effeithiol. Barn y Pwyllgor oedd y gallai hyn ysgogi gwelliannau mewn ansawdd a chynnig gwerth am eu harian i ysgolion a cholegau.

Dywedodd Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC, y byddai’n “werth ystyried awgrym y Pwyllgor y gellid cael maes llafur cenedlaethol ym mhob pwnc a fyddai’n cynorthwyo ymdrechion ar y cyd i sicrhau safonau cyfartal ar draws y sefydliadau dyfarnu. Ond ni ddylid bychanu’r sialens o gael cytundeb arbenigwyr pwnc ar un maes llafur.”

“Rydym yn gweithio’n agos gyda rheoleiddwyr Cymru a Lloegr i sicrhau cysondeb yn safonau’r cymwysterau yr ydym yn eu cynnig o flwyddyn i flwyddyn,” meddai Gareth Pierce, “ac mae athrawon y ddwy wlad yn gwerthfawrogi’n harbenigedd a’n cywirdeb wrth i’n harbenigwyr pwnc a’n staff gweinyddol ddatblygu manylebau heriol a darparu gwasanaethau ardderchog.”

Fel un o’r pedwar prif gorff dyfarnu sy’n darparu cymwysterau cyffredinol yn Lloegr, a’r prif ddarparwr yng Nghymru, mae CBAC yn cydnabod y cyfraniad y gall rheoleiddwyr ei wneud i sicrhau cysondeb safonau yn y ddwy wlad, ac mae’n cefnogi barn y Pwyllgor parthed rôl barhaus y rheoleiddwyr yn y cyd-destun hwnnw. Dywedodd Gareth Pierce “Mae CBAC wedi arfer â gweithio’n agos gyda dau grŵp o reoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr. Ein nod yw parhau i chwarae rhan adeiladol yn y broses o ddarparu cymwysterau yn Lloegr ac yng Nghymru, beth bynnag a benderfynir am strwythur y systemau.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn pwysleisio y gall mesurau atebolrwydd neu ddangosyddion perfformiad ysgolion gyfyngu ar y ffordd y defnyddir y system arholiadau. Mae’r materion y gellir dylanwadu arnynt yn cynnwys pwyslais addysgu, cymorth ychwanegol i grwpiau arbennig o ddisgyblion, a chynnwys gwerslyfrau. Mae CBAC yn cytuno y dylid trafod y dylanwadau hyn, er mwyn darparu rhaglenni dysgu 14-19 mewn dulliau sy’n caniatau i’n holl bobl ifanc wireddu eu potensial.

Mae’r Pwyllgor Dethol yn cyfeirio at gyrsiau hyfforddi y sefydliadau dyfarnu. “Ynghyd â chyrff dyfarnu eraill, rydym wedi cryfhau’r canllawiau a roddir i gyfranwyr at ein cyrsiau” meddai Gareth Pierce; “rydym hefyd yn monitro eu hansawdd yn ofalus, i sicrhau bod pob cwrs yn cyrraedd y safon uchel a ddisgwylir gan gyfranogwyr. Rydym yn cynnig rhaglen lawn o gyrsiau wyneb-yn-wyneb yn yr hydref, ac yn datblygu ymhellach ein darpariaeth ar-lein i ychwanegu at y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.”

Manylion cyswllt

Ceri Thomas - Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
029 2026 5309
ceri.thomas@cbac.co.uk