Canfod cymwysterau ac adnoddau
Dewch i ymweld â CBAC yng nghynhadledd ATP
2 Gorffennaf 2012
Bydd Elin Angharad (Swyddog Pwnc Arbenigol Seicoleg CBAC) yn mynychu Cynhadledd Flynyddol yr Association for the Teaching of Psychology ym Mhrifysgol Aston, Birmingham ar 6ed - 8fed Gorffennaf 2012. Mae’n bleser gan CBAC noddi nifer o sesiynau grŵp yn y Gynhadledd.
Bydd Deborah Wearing, awdur “Forever Today: A Memoir of Love and Amnesia” yn siarad mewn dwy sesiwn ar ddydd Sadwrn 7fed Gorffennaf – y gyntaf am 11.45am ac eto am 3.00pm. Mae gŵr Deborah Clive Wearing yn destun astudiaethau seicolegol led led y byd. Yn 1985 cafodd ddiagnosis ei fod yn dioddef o’r achos dwysaf o amnesia erioed. Dechreuodd Deborah elusen i gefnogi pobl â phroblemau’r cof ac ymddygiad ac yna ysgrifennodd lyfr am fywyd heb gof ond â chariad cadarn.
Mae CBAC hefyd yn noddi’r prif siaradwr Dr Faye Short o Brifysgol Bangor fydd yn archwilio dull o wella profiad myfyrwyr. Mae disgwyl i sefydliadau modern godi graddau a chynnal safonau academaidd yr un pryd, sicrhau disgyblaeth ac eto feithrin profiad cadarnhaol i’r myfyriwr. Bwriad y sgwrs hwn yw archwilio un dull o wella profiad y myfyriwr gan ddefnyddio’r sgiliau a feithrinwyd yn y sector cwnsela. Bydd Dr Short yn arddangos sgiliau cwnsela ei hun yn ystod y sgwrs ac yn egluro sut mae modd defnyddio’r sgiliau hyn yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi dysgu. Cynhelir sesiwn Dr. Short am 10.00am ar ddydd Sul 8fed Gorffennaf. Mae mwy o fanylion i’w cael ar wefan ATP.
Bydd CBAC yn cynnal gweithdai hefyd ar ddydd Sul 8fed Gorffennaf am 9 o’r gloch:
Addysg ynteu Arholiad
Yn y sesiwn hon, bydd John Griffin yn trafod sut i sicrhau bod y Safon Uwch Seicoleg yn ymwneud â gwybodaeth gyffredinol a gwerthfawrogiad o’r pwnc yn ogystal â thicio’r blychau yn yr asesiadau (yn canolbwyntio ar U2 CBAC).
Yn ystyried newid, neu’n newydd i CBAC?
Bydd gweithdy Frances Harding yn disgrifio’r cwrs yn fyr, gan roi syniadau ar sut i fynd i’r afael â’r UG (a’r U2 os oes angen) a phwyntiau allweddol o adroddiadau arholwyr. Ceir cyfle i holi cwestiynau ac i drafod.
Gallwch ymweld â ni hefyd ar ein stondin a chael cyfle i sgwrsio â Swyddog Pwnc Seicoleg CBAC Elin Angharad a phrynu copi o lyfr Deborah Wearing.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Elin Angharad - Swyddog Pwnc
Rhif ffôn: 029 2026 5302
E-bost: elin.angharad@cbac.co.uk
