Canfod cymwysterau ac adnoddau
Cymeradwyo TGAU llinol CBAC
28 Mehefin 2012
Yn gyffredin â sefydliadau dyfarnu eraill, gofynnwyd i CBAC yn ddiweddar i ddiwygio manylebau TGAU er mwyn i’r asesu fod yn llinol.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod manylebau TGAU llinol CBAC wedi cael eu cymeradwyo gan y rheoleiddwyr.
Mae’r cynnwys pwnc ym mwyafrif y manylebau TGAU yn aros yr un peth. Yr unig wahaniaeth yw’r ffaith fod rhaid i’r holl arholiadau gael eu cymryd ar ddiwedd y cwrs mewn manylebau llinol. Edrychwch ar y dudalen sy’n berthnasol i’r pwnc TGAU er mwyn gweld y manylebau diwygiedig.
Yr unig eithriadau yn hyn o beth yw’r TGAU Hanes, Llenyddiaeth Saesneg, Astudiaethau Crefyddol, a Daearyddiaeth, lle y gwnaed rhai newidiadau i bapurau’r cyrff dyfarnu i gyd er mwyn darparu ar gyfer asesu’r sillafu, atalnodi a gramadeg. Mae manylion pellach i’w cael ar yr eitem ynglyn â newidiadau asesu sillafu, atalnodi a gramadeg.
Bydd rhaid i bob corff dyfarnu hefyd wneud rhywfaint o waith “cryfhau” ar yr asesu yn y TGAU Daearyddiaeth yn 2014, ac yn y TGAU Hanes a Llenyddiaeth Saesneg yn 2015. Caiff manylion y newidiadau hyn eu rhoi ar y wefan yn fuan.
Mae taflenni manwl yn egluro’r newidiadau i’r TGAU ar gael yma:
Y prif bwyntiau:
- Bydd gofyn i BOB canolfan yn Lloegr ddefnyddio manylebau TGAU llinol o’r dyfarniad cyntaf yn 2014 (i’w haddysgu gyntaf mewn cyrsiau dwy flynedd o fis Medi 2012).
Yng Nghymru, bydd y canolfannau’n gallu dewis dilyn y naill neu’r llall o’r ddau ddewis sydd ar gael ar gyfer cyrsiau sy’n cychwyn ym mis Medi 2012.
- manylebau llinol (dyfarniad cyntaf haf 2014), lle mae’r ymgeiswyr yn sefyll eu harholiadau i gyd ar ddiwedd y cwrs
- manylebau unedol sy’n bodoli eisoes gan gael eu hasesu mewn unedau ar wahân ar wahanol adegau yn ystod y cwrs fel y gwneir ar hyn o bryd
- Mae CBAC yn cynnig manylebau llinol ac unedol.
- Yr un cynnwys sydd i’r ddau ddewis; yr unig wahaniaeth yw’r ffaith fod rhaid i‘r holl arholiadau gael eu cymryd ar ddiwedd y cwrs yn unig mewn asesu llinol.
Manylion cyswllt:
Dafydd Wyn - Swyddog Cyfathrebu
029 2026 5102 dafydd.wyn@cbac.co.uk
Hugh Lester - Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Datblygiad Busnes)
029 2026 5379 hugh.lester@wjec.co.uk
