Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




4 Mehefin 2012

Mae CBAC yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon, sef un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop. Bydd yr amrywiaeth o weithgareddau ar ein stondin yn dangos ein bod yn gwneud mwy na dim ond dyfarnu arholiadau!

Cynhelir yr Eisteddfod yng Nglynllifon, ger Caernarfon. Bydd ein stondin ar agor rhwng 9am a 5pm a bydd aelodau o staff CBAC yn hapus i helpu gydag unrhyw ymholiadau.

Mae croeso i ymwelwyr ddod draw i’n stondin, rhif 34-35, i fwynhau rhywfaint o ddigwyddiadau bywiog a dysgu am ein datblygiadau addysgol newydd.

Uchafbwyntiau

Urdd 2012 WelUn o uchafbwyntiau’r wythnos yw sesiwn cydganu caneuon o Darllen Mewn Dim gyda’r cymeriad adnabyddus Rala Rwdins. Mae’r llyfr yn un o’r nifer o lyfrau y mae’r tîm golygyddol wedi bod yn gweithio arnynt sydd wedi’u hanelu at blant 3 – 7 oed yn y cyfnod sylfaen.

Ni fydd y rhai hyn yn colli allan chwaith; tuag at ddiwedd yr wythnos gallant gymryd rhan yng nghwis Bagloriaeth Cymru a chael cyfle i ennill hyd at £25 o dalebau iTunes. Gall myfyrwyr sy’n astudio Safon Uwch Cerddoriaeth fwynhau sesiwn gyfansoddi gyda Pwyll ap Sion a Sioned Roberts.

Bydd GCaD Cymru yn ymuno â ni ar y stondin i ddangos y cyfoeth o adnoddau ar-lein y maent wedi bod yn brysur yn eu datblygu i ysgogi a diddanu athrawon, myfyrwyr a’u rhieni. Gallwch hefyd gael hwyl gyda thîm CILT Cymru, y corff sy’n hyrwyddo Ieithoedd Tramor Modern, a fydd ar y stondin gyda pheiriant gwneud bathodynnau a digon o gwisiau.

Prif Ddigwyddiadau CBAC yn Eisteddfod yr Urdd 2012.

GwyddonLe

Bydd CBAC hefyd yn noddi gweithdai crefft gwyddoniaeth yn y babell GwyddonLe drwy gydol yr wythnos yn yr Eisteddfod eleni. Mae GwyddonLe, sy’n newydd i’r Eisteddfod ers 2010, yn hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau gwyddonol, arddangosfeydd rhyngweithiol ac arbrofion diddorol ac mae’n un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd ar y Maes.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yng Nglynllifon!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Dafydd Wyn - Swyddog Cyfathrebu (yn yr Eisteddfod)
Ffôn: 07798704841

Ceri Thomas - Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Ffôn: 029 2026 5309
E-bost: ceri.thomas@cbac.co.uk