Canfod cymwysterau ac adnoddau
Cynadleddau Cenedlaethol Tîm cefnogi'r Gymraeg mewn addysg
25 Mai 2012
Yn ddiweddar, daeth yr addysgwr byd-enwog, Dylan Wiliam, i annerch Cynhadledd Genedlaethol Athrawon Bro Cymru. Mae Dylan Wiliam yn enwog am ei waith arloesol ym maes ‘Asesu ar gyfer dysgu a datblygu meddwl’ - a phrofiad bythgofiadwy i’r athrawon oedd gwrando arno yn siarad yn y gynhadledd yng ngwesty’r Novotel yng Nghaerdydd.
Dyma’r gyntaf o bum cynhadledd a gynhelir gan CBAC dan nawdd Llywodraeth Cymru, ac nid dyma’r unig siaradwr enwog yr ydym wedi ei ddenu eleni i ddiddanu ein cynadleddwyr. Eleni bydd y gynhadledd uwchradd yn estyn croeso i Paul Ginnis, addysgwr rhyngwladol sy’n helpu ysgolion i ddatblygu dulliau dysgu ac addysgu annibynnol a gwahaniaethol. Mae Paul yn gyflwynydd bywiog ac egnïol, a sesiwn sionc ac ymarferol fydd hon gyda chyfle i’r athrawon gymryd rhan mewn gweithgareddau.
Pam dod i gynadleddau cenedlaethol CBAC?
Yn y cynadleddau, a anelir at athrawon uwchradd a chynradd, Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith yn ogystal â chydweithwyr sy’n gweithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, caiff athrawon ryngweithio a rhannu syniadau â’i gilydd yn ogystal â derbyn arweiniad gan addysgwyr blaenllaw. Pan ofynwyd i un gynadleddwraig beth oedd uchafbwynt y gynhadledd iddi hi dywedodd; ‘cyfarfod â chyd-athrawon a rhannu profiadau.'
Mae CBAC wedi bod yn cynnal y cynadleddau ers rhai blynyddoedd bellach, ac wedi derbyn canmoliaeth uchel gan athrawon Cymru am eu cynnwys; fel y dywedodd un cynadleddwr: 'Roedd pob agwedd yn fuddiol ac yn ysbrydoledig'
Mae cyd-destun eleni yn newid yn sgil sefydlu Tîm cefnogi’r Gymraeg Mewn addysg yn CBAC ar ran Llywodraeth Cymru. Yn y gynhadledd ar gyfer athrawon bro, cafwyd anerchiad gan Ceinwen Jones, sef Pennaeth Uned y Gymraeg mewn addysg, Llywodraeth Cymru ar drefniadau Grant y Gymraeg mewn addysg.
Arbenigol
Nod y cynadleddau hyn yw cynorthwyo athrawon i godi safonau llythrennedd ymysg disgyblion, ac mae CBAC wedi llwyddo i fanteisio ar arbenigedd nifer o siaradwyr blaengar dros y blynyddoedd. Er enghraifft, un o’r sesiynau a gynhelir eleni yw Datblygu Llythrennedd ar Draws Ieithoedd a ddarperir gan Nia Gwyn Jones, CILT Cymru.
Cyflwynodd Buddug Selway Jones, athrawes ymgynghorol o Wrecsam sesiwn ar symud disgyblion o Lefel 4 i Lefel 5, sy’n cyd-fynd â phecyn hyfforddi newydd. Mae’r pecyn yn cynnig cyfres o weithgareddau i hyrwyddo symud disgyblion o Lefel 4 i Lefel 5 y cwricwlwm.
Dyma restr o’n cynadleddau a’u dyddiadau eleni:
- Cynhadledd Genedlaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol - 14/15 Mehefin 2012
- Cynhadledd Genedlaethol Athrawon Cynradd Cymraeg Ail-iaith (Cyfrwng Saesneg) - 21-22 Mehefin 2012
- Cynhadledd Genedlaethol Athrawon Cynradd y Gymraeg - 28-29 Mehefin 2012
- Cynhadledd Genedlaethol Athrawon Uwchradd y Gymraeg - 5-6 Gorffennaf 2012
Os hoffech archebu lle yn un o'r cynadleddau ewch i dudalen Cynadleddau Cenedlaethol
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Richard Roberts -Cydlynydd y Gymraeg mewn addysg
Ffôn: 07794265522
E-bost: richard.roberts@cbac.co.uk
