Canfod cymwysterau ac adnoddau
Manyleb Daearyddiaeth A TGAU yn derbyn achrediad cynnar
20 Mehefin 2012
Ar ôl i’r awdurdodau rheoleiddio nodi eu bwriad i gryfhau’r broses o drosglwyddo ac asesu’r TGAU Daearyddiaeth ar draws yr holl sefydliadau dyfarnu, mae’n bleser gan CBAC gadarnhau fod ein manyleb TGAU Daearyddiaeth A wedi’i hachredu’n gynnar.
Bydd ar gael i’w haddysgu o fis Medi 2012 ar ffurfiau llinol ac unedol. (Yn yr un modd â’r holl bynciau TGAU, fersiwn llinol yn unig sydd ar gael i ganolfannau yn Lloegr.)
Dywedodd Andy Owen, Swyddog Pwnc Daearyddiaeth TGAU,
"Mae cwrs TGAU Daearyddiaeth Manyleb A CBAC yn un mentrus a chyffrous. Mae'n gwrs daearyddiaeth ysgogol sy’n addas i fyfyrwyr yn yr 21ain ganrif. Mae'r fanyleb yn cynnwys themâu craidd sy'n rhoi sylfaen gadarn o ddaearyddiaeth ddynol a ffisegol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i athrawon ddethol o amrywiaeth o themâu dewisol gan gynnwys Arfordiroedd a Thwristiaeth.
"Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan, ac yn cael eu herio a’u hymestyn, yn enwedig drwy’r pwyslais ar 'ddyfodol daearyddol' a byddant yn cymhwyso eu dealltwriaeth o dueddiadau cyfredol er mwyn nodi sefyllfaoedd amgen yn y dyfodol a gwerthuso eu cynaliadwyedd."
Ailgyflwynwyd manyleb Daearyddiaeth B CBAC i’w hachredu hefyd. Gobeithiwn allu rhoi newyddion pellach am y fanyleb hon yn fuan.
Am ragor o fanylion, ewch i'r adran Ddaearyddiaeth ar ein gwefan.
Manylion cyswllt
Dafydd Wyn, Swyddog Cyfathrebu
029 2026 5102 dafydd.wyn@cbac.co.uk
Andy Owen, Swyddog Pwnc Daearyddiaeth TGAU
029 2026 5114 andrew.owen@wjec.co.uk
Steve James, Swyddog Cefnogaeth Pwnc
029 2026 5029 steve.james@wjec.co.uk
