Canfod cymwysterau ac adnoddau
Paratoadau rhag ofn y bydd amhariad ar arholiadau mis Ionawr
2 Ionawr 2012
Mae'n bosibl y bydd eira mawr a thywydd rhewllyd yn digwydd yn ystod cyfres arholiadau Ionawr 2012, ac yn rhwystro rhai canolfannau rhag agor, a rhai myfyrwyr rhag cyrraedd eu canolfannau ar gyfer yr arholiadau a drefnwyd.
Dylai canolfannau baratoi cynlluniau ar gyfer unrhyw amhariad ar yr arholiadau, gan ystyried sut y byddant yn cyfathrebu'r trefniadau hyn i fyfyrwyr, rhieni a staff, os bydd amhariad.
Mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ), sy'n cynrychioli'r prif gyrff dyfarnu, wedi cyhoeddi cyngor i ganolfannau mewn achos o dywydd garw, sydd hefyd yn cysylltu â chanllawiau manwl ar gyfer canolfannau sydd wedi cael eu cytuno gyda'r rheoleiddwyr yr arholiadau. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan JCQ.
