Canfod cymwysterau ac adnoddau
Teyrnged i Mostyn Phillips
13 Medi 2007
Rhoddwyd teyrngedau heddiw i’r diweddar Mostyn Phillips, cadeirydd Pwyllgor Arholiadau ac Asesu CBAC, ar ddiwrnod ei angladd yng Nglyn Ebwy, lle bu’n brifathro Ysgol Ramadeg Glyn Ebwy ac yna Ysgol Gyfun Uwch Glyn Ebwy. Roedd Mostyn yn frodor o bentre’r Cwm yn nyffryn Ebwy, ac wedi graddio mewn Hanes yn Abertawe death yn brifathro am y tro cyntaf yn 31 oed ym Merthyr. Bu’n weithgar yn sefydlu cyfundrefn addysg gyfun ym Merthyr ac wedyn yng Nglyn Ebwy.
Dechreuodd cyfraniad sylweddol Mostyn i CBAC yn yr 1980au cynnar pan gafodd ei enwebu gan yr NUT yn aelod o’n Pwyllgor Arholiadau, y bu’n gadeirydd arno o 1993 hyd nawr. Yn ogystal â sicrhau cydbwysedd a harmoni o’r gadair, gallai Mostyn fod yn bendant ei gyngor ar faterion o egwyddor ac roedd ganddo’r ddawn o gynnwys elfen sensitif o hiwmor i ysgafnhau’r trafodion.
Trwy ei rôl fel cadeirydd, roedd Mostyn yn ymneud â llawer o’r prosesau o wneud penderfyniad mewn sefyllfa roedd amgylchiadau neu ffactorau arbennig wedi effeithio ar ymgeiswyr arholiad unigol: byddai ei ddealltwriaeth o amgylchiadau disgyblion a’i degwch greddfol wrth weithredu canllawiau yn sicrhau’r deilliannau priodol i bawb.
Bu’n fraint i CBAC allu manteisio ar arweiniad ac ymrwymiad Mostyn Phillips dros gynifer o flynyddoedd, ac mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda Marica a’r merched yn eu colled. Gwelen ninnau golli cyfaill ac addysgwr egwyddorol a diflino.
