Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




13 Hydref 2011

Adeilad y Lanfa, Bae Caerdydd: 12.30 pm, Dydd Mercher, 19 Hydref

Disgyblion yn gwneud y cysylltiad rhwng sgiliau ieithoedd tramor a llwyddiant mewn busnes

Bydd cynrychiolwyr o ysgolion, busnesau a Llywodraeth Cymru yn ymgasglu yn adeilad y Lanfa ym Mae Caerdydd ar 19 Hydref i godi ymwybyddiaeth o’r angen am sgiliau mewn iaith dramor ym myd busnes rhyngwladol. Mae’r cynllun Pencampwyr Ieithoedd Busnes yn fenter gan CILT Cymru sy’n ffurfio partneriaethau rhwng adrannau Ieithoedd Tramor Modern (ITM) mewn ysgolion â busnesau sy’n masnachu’n rhyngwladol yng Nghymru.

Bydd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Sgiliau, Jeff Cuthbert AC, yn bresennol yn y digwyddiad, tra bydd Helen Cherré o gwmni Cassidian (sy’n cynnwys Airbus fel un o’i is-gwmnïau) a Graham Morgan o Siambr Fasnach De Cymru ymhlith y cynrychiolwyr o fyd busnes. Bydd Mr Morgan yn cyflwyno gwobrau cyntaf y cynllun.  

Bydd y gwobrau PIB yn cael eu rhannu’n 3 categori:
1. Ymrwymiad Eithriadol gan bartner busnes;
2. Arloesi (prosiectau sy’n dod ag ysgolion a busnesau at ei gilydd mewn ffyrdd newydd a chyffrous);
3. Llysgennad (am gyfraniad unigol i gefnogi ieithoedd mewn busnes ac mewn ysgolion)

Lansiwyd y cynllun gwobrwyo yng Nghymru'r llynedd, ond eleni y cynhelir y seremoni wobrwyo gyntaf, ac mae safon yr enwebiadau wedi bod yn uchel. Ar sail hynny, mae panel y beirniaid wedi penderfynu gwobrwyo 5 prosiect ychwanegol dan deitl y categori ‘Clod Uchel.’ yn ogystal â’r 3 brif wobr.

Mae’r adborth a gafwyd gan fusnesau ac ysgolion wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda John Curwen o Eriez Magnetics Europe Ltd yn datgan:

“Mae dros 75% o’n harchebion hyd yn hyn eleni wedi dod o dramor. Ni fuasai’r twf enfawr a ddisgwylir o’n busnes yn bosib oni bai am ein gweithwyr cyflogedig sydd â sgiliau iaith. Mae e’ mor syml â hynny.”

Dangosodd disgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Gyfun Brynhafren yn y Barri newid mawr mewn agwedd yn dilyn ymweliad â Maes Awyr Caerdydd:

‘Mae dod ar y trip hwn wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig yw hi i ddysgu ieithoedd a’r holl swyddi y gallech eu cael os ydych yn deall ieithoedd eraill’

Ar y cyd â’r cwrs NVQ newydd mewn Ieithoedd Busnes a ddatblygwyd gan CILT Cymru, mae’r cynllun PIB yn agor llygaid pobl ifanc i berthnasedd sgiliau ITM ym myd busnes. Gyda Chymru ar waelod y gynghrair o ran perfformiad allforio’r Deyrnas Unedig, mae’r gred yn tyfu fod sgiliau ieithoedd tramor yn gallu chwarae rôl allweddol o ran cyflogadwyedd, y gallu  i gystadlu am fusnes ac i wneud elw. (gweler nodyn 5 isod)

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Carolyn Goodwin (Rheolwr y  Prosiect PIB)
E-bost: Carolyn.Goodwin@ciltcymru.org.uk
Ffôn: 02920 265404
www.ciltcymru.org.uk