Canfod cymwysterau ac adnoddau
Paratoadau rhag ofn y bydd amhariad ar arholiadau mis Ionawr
17 Rhagfyr 2010
Mae’n bosibl y bydd eira mawr a thywydd rhewllyd yn digwydd yn ystod cyfres arholiadau Ionawr 2011, fel yn Ionawr 2010, ac yn rhwystro rhai canolfannau rhag agor, a rhai myfyrwyr rhag cyrraedd eu canolfannau ar gyfer yr arholiadau a drefnwyd.
Dylai canolfannau baratoi cynlluniau ar gyfer unrhyw amhariad ar yr arholiadau, gan ystyried sut y byddant yn cyfathrebu’r trefniadau hyn i fyfyrwyr, rhieni a staff, os bydd amhariad.
Mae gan reoleiddwyr yr arholiadau a chyrff dyfarnu gynllun wrth gefn i sicrhau cysondeb wrth ymateb i amhariad helaeth. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar http://www.ofqual.gov.uk/help-and-support/94-articles/477-contingencies-in-the-event-of-disruption-to-january-series-examinations
