Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




16 Mehefin 2010

Dysgodd CBAC ddoe gan Ofqual, rheoleiddwyr arholiadau, na chafodd ein manylebau TGAU Gwyddoniaeth drafft, a baratowyd ar gyfer eu haddysgu o Fedi 2011 ymlaen, eu hachredu.

Mae'r cyrff dyfarnu i gyd yn yr un sefyllfa; fe'n cynghorwyd gan Ofqual bod nifer o faterion i'w datrys cyn y gellid ail-gyflwyno'r manylebau drafft i'w hachredu.

Mae arbenigwyr pwnc CBAC eisoes wedi dechrau'r broses o addasu'n manylebau yn ôl yr adborth a gafwyd. Rydym yn awyddus i gwblhau'r broses mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl, fel bod athrawon yn gallu defnyddio'r adoddau newydd mewn da bryd i baratoi eu rhaglenni dysgu.

"Mae athrawon ac ymgynghorwyr wedi dangos cryn ddiddordeb yn ein manylebau newydd" meddai Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC. "Rydym yn siomedig na chafodd y manylebau eu hachredu ar ôl iddynt gael eu cyflwyno i'r rheoleiddwyr y tro cyntaf, ond yn hyderus y bydd ein harbenigwyr pwnc, sydd wedi ymgynghori'n eang ag athrawon ac aelodau'r gymuned wyddoniaeth, yn gallu cwrdd ag anghenion Ofqual.

"Dyma'r cylch adborth cyntaf a gafwyd ar fanylebau newydd ers i Ofqual ymgymryd â'i gyfrifoldebau statudol llawn fel rheoleiddiwr annibynnol. Bydd y ffordd y dehonglir y meini prawf ar gyfer manylebau wrth fynegi safonau yn datblygu'n fater trafod pwysig."

Pan fydd rhagor o newyddion ar gael am y datblygiadau diweddaraf, fe'u rhoddir ar y wefan.

Nodiadau

Manylebau newydd ar y gweill:

  • Gwyddoniaeth A
  • Gwyddoniaeth Ychwanegol
  • Bioleg
  • Ffiseg
  • Cemeg
  • Gwyddoniaeth B
  • Gwyddoniaeth Gymhwysol Ychwanegol

Gwybodaeth bellach

Ceri Thomas - Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
ceri.thomas@cbac.co.uk