Canfod cymwysterau ac adnoddau
Amserlen Arholiadau / Canlyniadau 2011
4 Mehefin 2010
Mae'r Cyd-Gyngor Cymwysterau (CGC) wrthi'n cwblhau adolygiad o drefniadau amserlen 2011. O ganlyniad i'r adolygiad hwn, bydd yr arholiadau TAG a TGAU yn cychwyn ar Fai 16eg 2011, gyda'r canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ar Awst 18fed 2011 (TAG) ac Awst 25ain 2011 (TGAU).
Gofynnir i'r canolfannau dalu sylw arbennig i'r dyddiadau hyn, gan y gallai'r rhai sydd wedi gwneud ymholiadau ar e-bost a thrwy ffonio'r swyddfa'n flaenorol fod wedi derbyn y dyddiadau rhagarweiniol cynharach, y mae'r dyddiadau uchod wedi cymryd eu lle erbyn hyn. Bydd gwybodaeth lawn am amserlen 2011 ar gael yn fuan.
