Canfod cymwysterau ac adnoddau
Gwallau mewn Papurau Cwestiynau
Mae’n annhebygol y bydd canolfan yn gweld gwall ar un o bapurau cwestiynau CBAC, neu ar ddeunydd asesu perthynol ond os yw hynny’n digwydd, dylai’r swyddog arholiadau gysylltu’n syth ag un o’r rhifau hyn yn CBAC:
- Papurau cwestiynau TAG safon U/UG: 029 2026 5336
- Papurau cwestiynau TGAU: 029 2026 5420
- Cymwysterau eraill: 029 2026 5128
Gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth ganlynol wrth law pan fyddwch yn codi’r ffôn:
- manylion y gwall sy’n cael ei amau, rhif ac enw’r papur sydd wedi’i effeithio
- pa bryd yn ystod y sesiwn arholiad y darganfuwyd y gwall
- rhyw syniad o’r effaith y mae’r gwall wedi’i chael ar yr ymgeiswyr
Ar sail y wybodaeth hon, bydd CBAC yn cadarnhau a ddigwyddodd gwall ai peidio. Os oes gwall, byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon ar unwaith â’r rheoleiddwyr a chydag ysgolion a cholegau eraill sy’n cymryd yr un papur.
Effaith bosibl
Cyn gynted ag y byddwn yn ymwybodol o effaith bosibl unrhyw wall ar ymgeiswyr, gallwn nodi’n gyffredinol sut y byddwn yn sicrhau tegwch i bob ymgeisydd.
Effaith wirioneddol
Unwaith y bydd y sgriptiau i gyd wedi’u marcio, bydd gennym ddealltwriaeth glir o effaith gwirioneddol y gwall, a gallwn gadarnhau’n benodol sut y byddwn yn gweithredu i sicrhau tegwch i’r holl ymgeiswyr. Byddwn yn cyfleu’r wybodaeth hon i’r rheoleiddwyr cyn i ganlyniadau’r arholiad yr effeithiwyd arno gael eu dosbarthu.
Cynlluniau cyfathrebu CBAC
Os caiff gwall ei gadarnhau mewn papur cwestiynau, byddwn yn cyfleu hynny trwy wneud y canlynol, cyn gynted â phosibl:
- e-bost at swyddogion arholiadau pob canolfan yr effeithiwyd arni
- cysylltu â’r rheoleiddiwr yng Nghymru neu Loegr, yn dibynnu ar ble y canfuwyd y gwall yn gyntaf
- cyhoeddi datganiad ar ein gwefan gyhoeddus yn nodi sut yr ydym am weithredu
- hysbysu dilynwyr ar ein safleoedd Twitter a Facebook
Gweithredu – sut y penderfynwn ar hynny
Mae gwallau’n bethau prin a rhaid ystyried pob un ar wahân. Yr hyn sy’n rhagori wrth ymdrin ag unrhyw wallau yw sicrhau ein bod yn deg â’r ymgeiswyr. Amlinellir y dewisiadau i’w hystyried mewn gwahanol amgylchiadau ym mhapur y Cyd-Gyngor Cymwysterau (JCQ).
