Naid i'r cynnwys

 
 
 

:

Canfod cymwysterau ac adnoddau




Science

Croeso i CBAC

CBAC yw un o'r prif gyrff dyfarnu ym Mhrydain, yn darparu cymwysterau, hyfforddiant ac adnoddau addysgol ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a gwledydd eraill.

Rydym hefyd yn darparu asesiadau a chymorth ar gyfer oedolion sy'n dymuno dysgu Cymraeg a'u tiwtoriaid.

Mae ein harbenigwyr pwnc a'n staff gweinyddol yn cynnig gwasanaeth hygyrch a phersonol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Nodweddion arbennig

Cymwysterau CBAC yn Nghymru

Adolygiad Cymwysterau 14-19

Mae CBAC yn awyddus i drafod gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i ddatblygu cymwysterau, adnoddau ac asesiadau. Mae'r newyddion diweddaraf ar TGAU, safon Uwch, Bagloriaeth Cymru a thudalennau pwnc neu lefel eraill.

Cymwysterau CBAC yng Nghymru

Cymwysterau CBAC yn Lloegr

Mae dros 3,500 o ganolfannau yn Lloegr yn defnyddio CBAC. Mewn trafodaethau ag Ofqual a'r Adran Addysg (DfE) rydym yn edrych ymlaen i barhau i ddarparu cymwysterau o safon sydd yn cydfynd â gofynion polisi ac anghenion dysgwyr yn Lloegr.

Mae manylion pellach am gymwysterau sydd wedi eu hachredu gan Ofqual ar gyfer defnydd yn Lloegr ar gael yn TGAU, safon Uwch, Sgiliau Gweithredol a thudalennau pwnc a lefel.

Asesu sillafu, atalnodi a gramadeg

Gwybodaeth am asesu sillafu, atalnodi a gramadeg yn TGAU Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, Daearyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol o Haf 2013.

Cystadleuaeth Saesneg "Inspire Me!"

InspireMeAng

Rydym yn annog pobl ifanc 14 i 19 oed sydd wedi’u hysbrydoli gan eu gwersi Saesneg i roi pin ar bapur, defnyddio eu gliniaduron a chymryd rhan yn ein cystadleuaeth ysgrifennu.

Siop ar-lein

Rydym yn cadw dewis eang o adnoddau addysgol, gan gynnwys gwerslyfrau, canllawiau adolygu, llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg a chyn-bapurau arholiad yn ein Siop ar-lein.

Paratoi myfyrwyr ar gyfer arholiadau: sut y gall data CBAC helpu codi safonau

Athrawon

Mae CBAC yn cynnig rhagflas i arweinwyr ysgolion a cholegau o’r cymorth ar-lein y byddwn yn ei ddarparu i athrawon yn yr hydref.

Mae mwy o wybodaeth ynglyn a’r sesiynau rhad ac am ddim yma ar gael yn yr adran Athrawon.

Cyrsiau Hyfforddi Medi 2013 – Gorffennaf 2014

Bydd dyddiadau’r cyrsiau ar gymedroli asesiad mewnol ar gyfer blwyddyn academaidd 2013 / 2014 yn cael eu cyhoeddi yn fuan. Darperir yr adolygiad arholiadau ar-lein a bydd mwy o fanylion ar gael maes o law.