Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




Dydd y canlyniadau

Hir yw pob ymaros fel y dywedan nhw ond mae'r aros hwnnw bellach ar ben a Bore'r Canlyniadau wedi cyrraedd o'r diwedd!  Dylech gyrraedd eich ysgol neu goleg yn gynnar i gasglu eich canlyniadau yn y bore (dim ond am ychydig oriau y bydd y rhan fwyaf ohonynt ar agor).  Os byddwch yn methu amser agor eich ysgol a heb wneud unrhyw drefniadau eraill, mae'n debyg na fyddwch yn gallu cael eich canlyniadau tan fydd yr ysgol/coleg yn ail-agor ym mis Medi.

Ni fydd CBAC yn gallu rhoi eich canlyniadau i chi, dim ond eich ysgol neu goleg sy'n gallu gwneud hynny.

Peidiwch â mynd i banig!

P'un ai ydych wedi cael y radd roeddech ei heisiau, neu wedi gwneud yn well neu'n waeth na'r disgwyl, mae gennych bob amser ddewis. Y cyngor pwysicaf i chi yw Peidiwch â mynd i banig!

Rydym wedi ceisio ateb cymaint o gwestiynau â phosibl er mwyn eich helpu i ystyried eich camau nesaf.

Gadael Blwyddyn 11

Mae eich dewisiadau nawr yn dibynnu i raddau helaeth ar eich canlyniadau arholiadau. P’un ai ydynt yn well na’r disgwyl neu ychydig yn siomedig, gweler isod rhai dewisiadau sydd ar gael i chi (nid yw hon yn rhestr gyflawn h.y. bydd dewisiadau eraill ar gael):

  • Parhau â’ch astudiaethau
    mae CBAC yn cynnig amrediad eang o gyrsiau UG a Safon Uwch – am ragor o fanylion dewiswch “Canfod Cymhwyster” ar yr ochr chwith. I fyfyrwyr yng Nghymru, mae CBAC nawr yn cynnig Cymhwyster Bagloriaeth Cymru sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd. 
  • Dechrau prentisiaeth
    mae prentisiau'n gweithio ochr yn ochr â staff profiadol i ddysgu sgiliau penodol. Bydd y rhan fwyaf o brentisiaethau'n darparu cymwysterau ar eich cyfer hefyd. Am fanylion pellach ewch i apprenticeships online.
  • Dod o hyd i swydd
    Mae sawl llwybr gyrfa ble y mae’r cymwysterau a enillwyd gennych ar ddiwedd blwyddyn 11 yn darparu man cychwyn priodol ar eich cyfer. Ewch i weld eich ymgynghorydd gyrfaoedd lleol am fanylion pellach. 

Gadael Blwyddyn 13

Yn yr un modd â myfyrwyr sy’n gadael Blwyddyn 11, bydd eich dewisiadau yn dibynnu’n fawr ar sut y gwnaethoch yn eich arholiadau. Gweler isod rhai dewisiadau sydd ar gael i chi:

  • Addysg Uwch
    mae hwn yn debygol o fod y dewis i lawer ohonoch. Mae gan UCAS lawer o wybodaeth am y broses o wneud cais a'r broses glirio.  Os nad ydych chi’n derbyn y graddau ar gyfer y brifysgol sy’n well gennych, neu os yw'ch graddau'n well na'r disgwyl, UCAS ddylai fod eich man galw cyntaf oherwydd y byddant yn rhoi cyngor cadarn. Hefyd, mae gan y Guardian rywfaint o wybodaeth dda am y broses glirio a byddant yn cyhoeddi’r holl leoedd gwag sydd mewn prifysgolion yn y papur ar ddiwrnod cyhoeddi’r canlyniadau. Dylech gadw mewn cysylltiad agos â’ch ysgol neu goleg yn syth ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau – gall staff gynnig cyngor ac arweiniad gwerthfawr gan ddwyn ar eu profiad o gynorthwyo o’r blaen mewn sefyllfaoedd tebyg.
  • Blwyddyn allan
    mae llawer o bobl yn dewis cymryd blwyddyn allan cyn cychwyn ar astudiaethau pellach neu gyflogaeth. Mae llawer o wefannau defnyddiol i'w cael ar y testun hwn am wybodaeth bellach gan gynnwys gapyear.
  • Dod o hyd i gyflogaeth
    Ymweld â jobcentreplus am wybodaeth bellach.
  • Dechrau prentisiaeth
    Ymweld ag apprenticeships am wybodaeth bellach. 

Ailsefyll

Os nad oedd eich graddau arholiad yr hyn yr oeddech yn eu disgwyl neu eu hangen, mae’r dewis gennych i ailsefyll y flwyddyn. Cysylltwch â’ch athro neu ymgynghorydd gyrfaoedd ynghylch beth fyddai’r cynllun gorau o dan yr amgylchiadau hyn a chofiwch gysylltu â’ch prifysgol oherwydd efallai y bydd yn gallu eich derbyn gyda’r graddau yr ydych wedi’u hennill.

Bydd y graddau sydd wedi'u dangos ar eich slip canlyniadau'n eich helpu i asesu pa arholiadau/unedau y byddwch am eu hailsefyll.  Bydd angen i chi siarad â'ch athro pwnc cyn penderfynu ar beth i'w wneud.  Byddan nhw'n gwybodaeth pa radd sydd o fewn eich gallu ac a oes angen i chi ailsefyll ai peidio.

Ail-farcio

Os ydych chi a'ch athro'n meddwl y gallai canlyniad fod wedi cael gradd uwch, gall eich ysgol/coleg gysylltu â CBAC a gofyn am ail-farcio.  Mae'r dewisiadau sydd ar gael ar y tudalennau Ymholiadau am Ganlyniadau.  (Rhaid i chi gyfeirio pob ymholiad drwy eich ysgol/coleg).

Cysylltau Defnyddiol

Mae’r University Guide 2011, a ddarperir gan y Guardian, yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y gwahanol brifysgolion sydd ar gael a’r pynciau y maent yn eu cynnig.

Mae studentfinance, a ddarperir gan y llywodraeth, yn darparu gwybodaeth dda am ariannu eich ffordd trwy fywyd prifysgol.