Canfod cymwysterau ac adnoddau
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Cyrsiau DPP newydd
Mae rhaglen Medi 2012 – Gorffennaf 2013 nawr ar gael
Cadwch le ar gwrs nawr i osgoi cael eich siomi!
Gallwch gadw lle ar gwrs hyd at bum diwrnod gwaith cyn pob digwyddiad, felly gwnewch hynny'n fuan er mwyn sicrhau eich lle.
Mae rhaglen 2013 - 2014 o gyfarfodydd DPP safoni asesiadau mewnol i fod i'w chyhoeddi ar y wefan yn fuan mewn fis Mehefin. Bydd cyflwyniadau DPP yn adolygu'r arholiadau yn cael eu darparu ar-lein mewn llawer o bynciau o fis Medi 2013.
Cyrsiau Hyfforddi DPP
Mae CBAC yn cynnal rhaglen gynhwysfawr o ddatblygiad proffesiynol parhaus i gefnogi'r athrawon wrth gyflwyno cyrsiau astudio sy'n arwain at arholiadau CBAC. Fel rheol swyddogion pwnc arbenigol ac arholwyr hŷn CBAC sy'n hwyluso'r cyrsiau hyfforddi.
Cynhelir cyrsiau ledled Cymru a Lloegr. Cynlluniwyd y cyrsiau hyn i gyflwyno manylebau newydd, rhannu arfer da a chyfnewid adborth ar arholiadau. Ceir cyfle i rwydweithio, yn ogystal â derbyn deunyddiau addysgol a syniadau newydd.
Newidiadau pwysig i'r drefn o gadw lle ar gyrsiau
Yn awr, bydd rhaid i chi gadw lle ar gyrsiau ar-lein ar ein gwefan, a gofynnir i chi roi cyfeiriad e-bost sy’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd. Anfonir yr holl ohebiaeth, gan gynnwys llythyrau cadarnhau, tua phythefnos cyn y cwrs, ar e-bost. (Dylai AALl neu ganolfannau heb eu cofrestru gysylltu ag hms@cbac.co.uk). Dylai’r rheiny sy’n gwneud cais sicrhau eu bod yn derbyn cadarnhad cyn mynychu’r cwrs. Ni fydd y dirprwyon hynny sy'n dod i'r cwrs ar y diwrnod heb gadarnhad yn cael mynychu'r cwrs. Cadwch le ar y cwrs yn gynnar i sicrhau eich lle.
Dyddiad cau i gadw lle
Mae'r cyfle i gadw lle ar bob cwrs yn dod i ben 5 diwrnod gwaith cyn pob digwyddiad.
Talu am y Cyrsiau
Mae taliadau blwyddyn academaidd Medi 2012 - Gorffennaf 2013 fel a ganlyn:
- Cyrsiau diwrnod llawn: £130 neu £110 os derbynnir ceisiadau yn ystod y tymor sy’n rhagflaenu’r cwrs.
- Cyrsiau hanner diwrnod: £65 neu £55 os derbynnir ceisiadau yn ystod y tymor sy’n rhagflaenu’r cwrs.
- Bydd cyrsiau sy'n cyflwyno manylebau neu weithdrefnau newydd yn rhad ac am ddim.
Bydd anfoneb yn cael ei pharatoi cyn gynted ag y derbynnir y cais i gadw lle ar y cwrs, felly gwnewch yn siwr bod gennych yr awdurdod i wneud hynny. Unwaith y byddwch wedi gwneud cais i gadw lle, eich canolfan sy'n gyfrifol am wneud y taliad addas. Os bydd angen anfoneb arnoch, mae darpariaeth ar y ffurflen gais i gael rhif archeb prynu, os yw hynny'n gymwys.
Ni fydd yn bosibl i gadw lle dros dro.
Deunyddiau DPP
Bydd y deunyddiau hynny sy'n cael eu dosbarthu yn y cwrs (cyrsiau) ar gael ar wefan ddiogel CBAC 24 awr ar ôl digwyddiad olaf pob pwnc.
Newid Enw
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â hms@cbac.co.uk i'w hysbysu am unrhyw enw a newidir cyn gynted a phosib.
Polisi Canslo
Gellir canslo hyd at bum diwrnod gwaith cyn pob digwyddiad yn ddi-dal drwy gysylltu ag hms@cbac.co.uk
Codir tal llawn am fethu a mynychu cwrs heb hysbysu i ddweud na fyddwch yn gallu dod; rhaid gwneud hyn pum diwrnod gwaith cyn pob digwyddiad.
CBAC yn Canslo Cwrs / Gohirio Cwrs
Mae gennym hawl i aildrefnu neu ganslo digwyddiad, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted a phosib.
Os ydym yn canslo digwyddiad, byddwn yn rhoi'r holl arian yn ôl i'r dirprwyon.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Materion gweinyddol: hms@cbac.co.uk
Materion am Gynnwys y pwnc: Swyddog Pwnc
