Canfod cymwysterau ac adnoddau
Cyn-bapurau TGAU
Ar y dudalen yma, cewch restr o bynciau sydd a chyn-bapurau TGAU (Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd) ar gael am ddim. Bydd dewis cyswllt yn eich tywys i'r cyn-bapurau ar gyfer y pwnc yna.
Argaeledd papurau arholiad
Am amryw resymau, gallwn gadw papurau arholiad rhag bod ar gael fel cyn-bapurau – neu eu rhoi ar gael, ond iddynt fod ond o ychydig ddefnydd yn unig:
- Gall materion hawlfraint ein hatal rhag cyhoeddi fersiwn ar-lein o bapur arholiad.
Esiampl: Papur arholiad Saesneg lle y cawson ni'r hawl i ddefnyddio darn o lyfr ar gyfer cwestiwn – ond heb gael yr hawl i gyhoeddi'r darn yna ar-lein. - Mae papurau arholiad yn gallu dibynnu ar ddeunydd adnodd ychwanegol does gyda ni mo'r hawl i'w gyhoeddi.
Esiampl: Map Ordnance Survey ar gyfer arholiad Daearyddiaeth. - Mae papurau arholiad yn gallu dibynnu ar ddeunydd ychwanegol fyddai'n cymryd gormod o adnodd ar-lein i'w gyflwyno.
Esiampl: Clip fideo hir o safon uchel ar gyfer papur arholiad Astudio'r Cyfryngau. - Mae cyn-bapurau ond ar gael yn gyffredinol am y 3 mlynedd a nodwyd yn y polisi cyhoeddiadau.
Yn ychwanegol i'r rhesymau uchod, rydyn ni'n cadw'r hawl i dynnu cyn-bapur am unrhyw reswm ar unrhyw adeg.
Cyn-bapurau
- Addysg Gorfforol
- Almaeneg
- Arlwyo
- Astudiaethau Busnes
- Astudiaethau Crefyddol
- Astudiaethau Crefyddol A
- Astudiaethau Crefyddol B
- Bioleg
- Busnes Cymhwysol
- Celf a Dylunio
- Cemeg
- Cerddoriaeth
- Cymdeithaseg
- Cymraeg Ail Iaith
- Cymraeg Iaith Gyntaf
- Drama
- Dylunio a Thechnoleg
- Dylunio a Thechnoleg (Cwrs Byr)
- Dylunio a Thechnoleg: Dylunio Cynnyrch
- Dylunio a Thechnoleg: Cynhyrchion Graffig
- Dylunio a Thechnoleg: Systemau a Thechnoleg Rheoli
- Dylunio a Thechnoleg: Technoleg Bwyd
- Dylunio a Thechnoleg: Technoleg Defnyddiau Gwrthiannol
- Dylunio a Thechnoleg: Technoleg Tecstilau
- Economeg y Cartref
- Economeg y Cartref - Bwyd a Maeth
- Economeg y Cartref - Datblygiad y Plentyn
- Economeg y Cartref - Tecstilau
- Electroneg
- Ffiseg
- Ffrangeg
- Gwyddoniaeth (Hen fanyleb)
- Gwyddoniaeth Gymhwysol
- Gwyddoniaeth Gymhwysol Ychwanegol
- Gwyddoniaeth Ychwanegol (Hen fanyleb)
- Hamdden a Thwristiaeth
- Hanes
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Llenyddiaeth Gymraeg
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Mathemateg
- Saesneg
- Saesneg Llenyddiaeth
- Sbaeneg
- TGCh
- TGCh Cymhwysol
Mae modd prynu copiau caled o'r papurau yn ogystal â deunyddiau eraill fel cynlluniau marcio o'n siop arlein, neu medrwch gysylltu'n uniongyrchol:
Siop Lyfrau CBAC 245 Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX
Rydym yn croesawu ymwelwyr i'r siop lyfrau, sy'n cynnig cardiau cyfarch dwyieithog, anrhegion a llyfrau Cymraeg i blant, yn ogystal ag adnoddau i gefnogi'r cwricwlwm.
