Canfod cymwysterau ac adnoddau
Cyn-bapurau
Mae'n bosib taw cyn-bapurau yw'r adnodd mwyaf defnyddiol wrth adolygu. Maen nhw'n caniatau i chi fesur eich gwybodaeth o'r pwnc ac yn amlygu eich cryfderau a'ch gwendidau. O astudio cyn-bapurau medrwch chi weld pa rannau o'r gwaith sydd angen mwy o astudio, a hefyd pa adrannau sydd wedi cael digon.
I gael cyn-bapurau print bras addasedig neu gyn-bapurau iaith addasedig, cysylltwch ag Aled Davies ar 01443 845634 neu anfonwch e-bost at aled.davies@wjec.co.uk
Os ydych chi'n chwilio am ein cyn-bapurau i'w lawrlwytho am ddim, defnyddiwch y tudalennau yma:
Mae ffyrdd eraill o gael cyn-bapurau drwy eu prynu:
- Ffoniwch 029 2026 5112 neu 029 2026 5063 a siaradwch ag un o weithwyr y siop sy'n aros am eich galwad
- Chwiliwch am gyn-bapurau yn y siop ar-lein
- Dewch i ymweld â ni! Mae gyda ni siop sydd ar agor i'r cyhoedd 5 diwrnod yr wythnos. Mae wedi'i leoli yn ein prif swyddfa yn 245 Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX.
Pa bryd y bydd dogfennau arholiadau CBAC ar gael?
Mae Polisi Cyhoeddiadau CBAC yn dangos pa bryd y bydd dogfennau arholiadau CBAC ar gael i ganolfannau arholiadau cofrestredig ac i aelodau o'r cyhoedd.
Cynlluniau marcio
Medrwch gael copiau electronig a chaled o gylluniau marcio CBAC yn ein siop ar-lein.
