Canfod cymwysterau ac adnoddau
Gwarchod Data
Mae hawl gennych ofyn i CBAC ddatgelu'r wybodaeth sydd ganddo amdanoch chi a, wedi derbyn y ffi safonol o £10, mae'n rhaid i CBAC gael gafael ar y wybodaeth hynny a'i rhannu gyda chi o fewn 40 diwrnod.
Bydd CBAC yn derbyn cais ffurfiol am ddatgelu data wrth dderbyn y ffurflen gais am fynediad unigolyn i'w data personol a'r ffi. Am gymorth wrth lenwi'r ffurflen edrychwch ar y canllawiau.
Mae polisi gwarchod data CBAC yn rhoi mwy o fanylion am y ffordd rydyn ni'n gweithredu'r broses yma.
Bydd unrhyw sylwadau neu gwestiynau am bolisi gwarchod data CBAC yn cael eu croesawu, medrwch eu cyfeirio at:
Swyddog Gwarchod Data
CBAC, 245 Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd. CF5 2YX
swyddog.gwarchod.data@cbac.co.uk
