Cyn-bapurau


Mae cyn-bapurau yn adnodd adolygu defnyddiol. Maen nhw'n caniatau i chi fesur eich gwybodaeth o'r pwnc ac yn amlygu eich cryfderau a'ch gwendidau. O astudio cyn-bapurau medrwch chi weld pa rannau o'r gwaith sydd angen mwy o astudio, a hefyd pa adrannau sydd wedi cael digon.

Gallwch gael cyn bapurau gyda llythrennau bras a phapurau â'r iaith wedi'i haddasu yn yr un modd. Os hoffech gael fersiwn braille, neu os nad ydych yn gallu dod o hyd i bapur cwestiynau penodol wedi'i addasu neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am bapurau wedi'u haddasu anfonwch neges at papurauwediuhaddasu@cbac.co.uk.

Mae Polisi Cyhoeddiadau CBAC yn dangos pa bryd y bydd dogfennau arholiadau CBAC ar gael i ganolfannau arholiadau cofrestredig ac i aelodau o'r cyhoedd.

Methu dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano? Cysylltwch yr arbenigwr pwnc neu anfonwch e-bost atom: gwybodaeth@cbac.co.uk.