I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Prif Ddysgu Y Creadigol a'r Cyfryngau
Cymhwyster wedi’i arwain gan gyflogwyr yw Prif Ddysgu Y Creadigol a’r Cyfryngau CBAC, sy’n ymgorffori gwybodaeth benodol, dealltwriaeth a sgiliau sy’n berthnasol i’r sectorau Cyfryngau, Celfyddydau Perfformio a Celf a Dylunio. Rhaid i o leiaf 50% o’r cwrs fod yn gymhwysol, gan gymryd lle mewn amgylchedd gwaith sy’n gredadwy neu’n ffug.
Gellir astudio’r cwrs newydd ysgogol hwn fel opsiwn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, neu fel rhan o’r Diploma. Ynddo, ceir sawl nodwedd y bydd dysgwyr ac athrawon fel ei gilydd yn eu gwerthfawrogi.
- Mae aseiniadau’n rhoi cyfleoedd i ddysgu gan ymarferwyr yn sector Y Creadigol a’r Cyfryngau: bydd dysgwyr yn cael profiad gwaith perthnasol a sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr
- Datblygir sgiliau ymarferol ac academaidd trwy ddysgu cymhwysol
- Bydd dysgwyr yn gweithio ar draws amrywiol ddisgyblaethau, gan ennill profiad helaeth o’r sector
- Oherwydd hyblygrwydd y cwrs, gall myfyrwyr arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb unigol
- Cyfuniad o brojectau ac arholiadau yw’r asesu, felly mae’n darparu am wahanol arddulliau dysgu
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Jo Johnson - Swyddog Pwnc
Ffôn: 029 2026 5091
E-bost: jo.johnson@wjec.co.uk
Leah Crowley - Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5142
E-bost: leah.crowley@wjec.co.uk
Catrin Budd - Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5142
E-bost: catrin.budd@wjec.co.uk
