Naid i'r cynnwys

 
 
 

Cymraeg i Oedolion - Uwch Lefelau:

Canfod cymwysterau ac adnoddau



Dyma’r pedwerydd arholiad, ac mae’n cyfateb i lefel TAG (ail iaith). Byddwch chi’n barod i sefyll yr arholiad hwn ar ôl gorffen Cwrs Meistroli.

Mae sawl rhan i’r arholiad, yn profi’r sgiliau iaith dych chi’n eu dysgu yn eich dosbarth Cymraeg. Ceir rhagor o wybodaeth yn y llyfryn i’r ymgeiswyr a manylion yn y fanyleb i diwtoriaid (Cymraeg) ar y dudalen hon. Mae disgwyl i ymgeiswyr baratoi ffolio o waith cyn sefyll yr arholiad ei hun.

Y ffordd orau i sicrhau eich bod yn barod i sefyll yr arholiad yw edrych ar y cyn-bapurau, ac ymarfer rhai ohonyn nhw gyda’ch tiwtor. Bydd eich tiwtor hefyd yn gallu esbonio i chi sut i gofrestru, os dych chi’n dysgu ar gwrs. Os nad dych chi ar gwrs, mae ffurflen gofrestru yng nghefn y llyfryn i ymgeiswyr.