I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Prif Ddysgu
Mae cymwysterau Prif Ddysgu (PDd) ar gael yng Nghymru fel un o’r elfennau Opsiwn o fewn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, ac yn Lloegr fel rhan o'r Diploma. Rhaid astudio’r Prif Ddysgu ochr yn ochr â’r cymwysterau Project ar y lefel briodol a chymwysterau priodol eraill. Dyfernir Diploma Bagloriaeth Cymru ar y lefel briodol i ddysgwyr sy’n llwyddo yn y Craidd ac Opsiynau Bagloriaeth Cymru. Strwythur CBC gydag Elfennau’r PDd/Project
Llinellau dysgu
Ym mis Medi 2009, cymeradwyodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y cymwysterau Prif Ddysgu a Project ar dair lefel fel un o’r elfennau Opsiwn o fewn Bagloriaeth Cymru.
O fis Medi 2011, gall rhwydweithiau a phartneriaethau ddilyn cymwysterau Prif Ddysgu mewn 14 llinell ddysgu. Mae’n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo i’w cyflwyno gan APADGOS Llywodraeth Cynulliad Cymru. Dyma nhw:
- Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
- Astudiaethau'r Amgylchedd a Diwydiannau'r Tir
- Y Creadigol a’r Cyfryngau
- Gwallt a Harddwch
- Peirianneg
- Lletygarwch
- Technoleg Gwybodaeth
- Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch
- Busnes, Gweinyddiaeth a Chyllid
- Cymdeithas, Iechyd a Datblygiad
- Chwaraeon a Hamdden Bywiog
- Teithio a Thwristiaeth
- Busnes Adwerthu
- Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae manylebau’r Prif Ddysgu yng Nghymru wedi’u cysylltu â Sgiliau Hanfodol Cymru a Sgiliau Allweddol Ehangach tra bod y manylebau ar gyfer Lloegr wedi’u cysylltu â Sgiliau Gweithredol a Sgiliau Personol, Dysgu a Meddwl.
Darpariaeth CBAC
Mae CBAC yn cynnig Prif Ddysgu yn Y Creadigol a’r Cyfryngau a Chymdeithas, Iechyd a Datblygiad.
Darpariaeth drwy bartneriaeth
Mae darpariaeth CBAC o linellau dysgu eraill yn y Prif Ddysgu ar gyfer Cymru yn cael ei ddarparu trwy bartneriaeth ag Edexcel a VTCT.
Y cymwysterau Prif Ddysgu a gynigir gan Edexcel yw: Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Peirianneg, Technoleg Gwybodaeth, Busnes, Gweinyddiaeth a Chyllid, Astudiaethau'r Amgylchedd a Diwydiannau'r Tir, Lletygarwch, Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch, Busnes Adwerthu, Chwaraeon a Hamdden Bywiog, Teithio a Thwristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mwy o wybodaeth am Prif Ddysgu yng Nghymru mewn partneriaeth gydag Edexcel
Mae’r Prif Ddysgu mewn Gwallt a Harddwch yn cael ei ddarparu trwy bartneriaeth â VTCT.
Sesiynau hyfforddi
Mae CBAC/Edexcel/VTCT yn trefnu sesiynau hyfforddi ar y cyd i’r Rhwydweithiau 14 – 19 a chonsortia er mwyn paratoi ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant i gyflwyno’r cymwysterau Prif Ddysgu o fis Medi 2011.
Mwy o wybodaeth
Am wybodaeth bellach ynghylch cymwysterau Prif Ddysgu, cysylltwch â:
Tessa Gabriel-Davies, Swyddog Datblygu Llwybrau
Ffôn: 029 2026 5191
E-bost: tessa.gabriel-davies@wjec.co.uk
