Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster i fyfyrwyr yng Nghymru rhwng 14 i 19 mlwydd oed.
Mae'n cyfuno sgiliau datblygiad personol gyda chymwysterau sy'n bodoli eisoes i ffurfio un dyfarniad ehangach sy'n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr a phrifysgolion. Ceir profiadau ehangach na'r rhaglenni dysgu traddodiadol ym Magloriaeth Cymru.
Mae craidd Bagloriaeth Cymru yn cyfrif am 120 o bwyntiau tariff UCAS, yn cyfateb i radd A yn y TAG Safon Uwch.
Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu fel cyfuniad o'r ddwy iaith.
Amcanion
Nod Bagloriaeth Cymru yw cynnig cwricwlwm ehangach a mwy cytbwys i fyfyrwyr 14-19 mlwydd oed, gan helpu'r myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau y mae sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr am iddynt eu cael pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Mae'r pwyslais ar ddysgu trwy wneud, a rhoddir yr un gwerth ar gymwysterau academaidd a galwedigaethol.
Diweddaraf
Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion adroddiad yr Adolygiad o Gymwysterau 14-19 yng Nghymru a gyhoeddwyd fis Tachwedd y llynedd. Yn yr adroddiad, argymhellwyd adeiladu ar Fagloriaeth Cymru a’i chryfhau i ddarparu fframwaith cyffredinol ar gyfer cymwysterau i bobl ifanc 14-19 mlwydd oed. Dylai’r Fagloriaeth adlewyrchu a chynnal cwricwlwm sy’n darparu addysg gyffredinol eang a chytbwys i bobl ifanc 14 i 16 mlwydd oed, a rhaglenni dysgu cydlynol i bobl ifanc 16 i 19 mlwydd oed. Mae CBAC ar hyn o bryd yn cydweithio â Llywodraeth Cymru o ran y datblygiadau newydd hyn ac yn rhoi cefnogaeth iddo. Mae grŵp llywio a nifer o weithgorau wrthi’n cynllunio Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd i’w chyflwyno o fis Medi 2015. Bydd cefnogaeth a hyfforddiant ar gael gan CBAC i’r canolfannau ymhell o flaen dyddiad cychwyn y datblygiadau newydd.
Bydd un o argymhellion yr adolygiad yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2013. Yr argymhelliad hwn oedd y penderfyniad i ddyfarnu Craidd CBC ar y lefel Uwch. Bydd y system raddio newydd yn berthnasol i’r ymgeiswyr hynny sy’n cychwyn ar eu cyrsiau CBC lefel Uwch ym mis Medi 2013, byddant yn cael eu graddio am y tro cyntaf felly yn 2015. Mwy o wybodaeth am y graddio.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o fanylion, cysyllter â:
Caroline Morgan - Swyddog Datblygu
Ffôn: 029 2026 5319
E-bost: caroline.morgan@wjec.co.uk
Ross Thomas - Swyddog Datblygu
Ffôn: 029 2026 5320
E-bost: ross.thomas@wjec.co.uk
Medrwch hefyd gael mwy o wybodaeth o'r dudalen Cysylltiadau defnyddiol.
